Rwyf wedi gweithio o fewn y sector cynaladwyedd ers dros 25 mlynedd, gyda sgiliau o droi syniadau i brosiectau realistig. Rwy’n mwynhau helpu grwpiau cymunedol i gyflawni’u nodau cynaliadwy. Ers ymuno gydag Adfywio yn 2014 rwyf wedi gweithio gyda dros 30 o brosiectau yn ymwneud â chynllunio busnes a gweithredu, prosiectau ariannu ac ynni – gan gynnwys nifer o fentrau cymdeithasol ac adeiladau cymunedol. Mae materion wedi codi yn amrywio o ddatblygiadau tyrbinau gwynt i dyfu bwyd, iechyd a lles. Credaf fod Effeithiolrwydd Ynni wrth graidd cynaladwyedd.
Mae gen i MSc mewn Ynni a Gwarchodaeth ac rwyf wedi gweithio ar ben blaen mentrau adnewyddadwy, ynghyd a nifer o geisiadau ariannu llwyddiannus gan gynnwys gwobr menter grid o £2.45 miliwn. Rwy’n Gyfarwyddwr Gwirfoddol Ynni Cymunedol Sir Benfro ac Ynni Cymunedol Grannell ac yn gweithio hefyd fel Cynghorydd Ynni Lleol yn helpu grwpiau i sefydlu Clybiau EL yn yr ardal, yn eu galluogi i brynu trydan cynhyrchir yn lleol.
Rwy’n berchen ar fusnes twristiaeth eco bach wedi’i osod ym mhrydferthwch Sir Benfro gyda fy ngŵr Martin, Gwyliau North Lodge Eco. Rydym yn cynnig gwersylla traddodiadol ac unedau rhyfeddol oddi ar y grid, gan gynnwys lori ceffylau wedi’i drawsnewid. Ers symud yma yn 2008 rwyf hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd cynaladwyedd yn y diwydiant twristiaeth, gyda sefydliadau arweiniol, yn gwella polisi ac yn darparu arbenigedd i ddarparwyr twristiaeth trwy WRAP a sefydliadau eraill.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Mae fy ngwaith gydag adfywio wedi amrywio, dwy esiampl:
Mae Canolfan Cymunedol Brynberian yn gwasanaethu cymuned cefn gwlad fechan wasgarog ar droed Bryniau Preseli, sydd yn siarad Cymraeg yn bennaf. Yn wreiddiol yn ysgol, wedi cau yn 1971, mae’r gymuned bellach yn berchen arno ond mae angen ei ddiweddaru a’i foderneiddio. Roedd y grŵp eisiau adfywio’r adeilad fel Canolfan. Bu’r sefydliad lleol PLANED mewn cysylltiad yn gofyn i mi fynychu’r cyfarfod cyntaf, ac o hyn daethant yn grŵp ADFYWIO.
Roeddem hefyd yn llwyddiannus yn sicrhau cymorth SOS i Bentrefi sydd yn cael ei redeg gan y DTA. Gyda Chynllun Gweithredu wedi’i gwblhau, cyfeiriwyd nhw tuag at REW i gael archwiliad o’r adeilad i ddarparu opsiynau effeithiolrwydd ynni a gosodiadau adnewyddadwy. Fel mentor cwblheais gais llwyddiannus RCDF EOI ar ran y Ganolfan. Gydag ychydig o arweiniad aeth y grŵp yn ei flaen i wneud ceisiadau am arian, digwyddiadau a sawl gweithgaredd arall, yn sefydlu tîm gwaith cryf i gyflawni’r tasgau yma. Mae’r hyder a’r gallu wedi tyfu, bu iddynt gyrraedd rownd derfynol gwobrau ADFYWIO Cymru ac maent wedi derbyn gwobr gyllidol o £161,000.
Aeth Seren Energy, datblygwr tyrbin gwynt, at Awel Deg, grŵp cymunedol yng Ngheredigion, i gyflwyno cronfa tyrbin gwynt cymunedol. Ond yn dilyn cyfarfod gyda fi ac Awel Deg, roeddem yn teimlo y dylai cynnwys grŵp mwy lleol ger Llanbedr Pont Steffan. Arweiniodd hyn at sefydlu grŵp newydd ‘Ynni Cymunedol Grannell’ (GCE). Cyfeiries y grŵp at eraill hefyd, gan gynnwys Ynni’r Fro. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach mae gan GCE newyddion cyffrous, maent wedi prynu Enercon 48 sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar ac wedi lansio eu cynnig rhannu.
Mae ADFYWIO a gwaith ynni perthnasol eraill wedi caniatáu i mi ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau i ymateb i broblemau rhwydwaith grid ar gyfer grwpiau cymunedol. Wrth fynd ymlaen rwy’n rhagweld bydd y rôl yma yn bwysig iawn wrth gefnogi grwpiau i ddatblygu prosiectau mwy cymhleth.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae gan Gymru’r cyfle i harneisio ei adnoddau naturiol a’u datblygu yn gynaliadwy. Mae fy ngweledigaeth o’r dyfodol yn dangos bydd polisïau presennol wedi cael eu newid i weithredu gyda chymunedau cydlynol sydd yn rhannu etifeddiaeth Cymraeg cref.
Erbyn 2050 byddem yn ymateb i newid hinsawdd a bydd cynaladwyedd economaidd wedi cael ei gyfuno i mewn i systemau lleol. Bydd gofalu am ein hamgylchedd yn flaenoriaeth i Gymru, gyda bwyd lleol a rhwydweithiau ynni yn cefnogi systemau eco lleol a bywiogrwydd economaidd. Mae gan ADFYWIO Cymru ran fach ond hanfodol i’w chwarae yn y datblygiad yma a’r newid o ddibyniaeth ar danwydd ffosil i fod yn rhanbarth glanach a gwydn.
Comments are closed.