Rwyf wedi bod yn gweithio yn y maes bwyd a ffermio am y mwyafrif o’m mywyd, fel gyrfa ac fel gwirfoddolwr. Cychwynnais mewn gwaith gwybodaeth amaethyddol cyn symud i mewn i addysg, ymrwymiad cyhoeddus a datblygiad cymunedol. Rhwng 2000 a 2015 roeddwn yn gweithio i Ganolfan Organig Cymru, yn cefnogi’r gadwyn gyflenwi organig ledled Cymru drwy wefan a digwyddiadau. Bellach rwyf yn ysgrifennwr llawrydd ac addysgwr ac rwyf yn gwirfoddoli gyda Bwyd Dros Ben Aber (fy sefydliad cynnal), Gardd Gymunedol Penglais a’n gardd ysgol leol. Rwyf hefyd yn is-gadeirydd Bïosffer Dyfi.
Yn genedlaethol, rwyf yn gydlynydd gwirfoddol Maniffesto Bwyd Cymru, ble rydym yn cynnal gweledigaeth am system fwyd gwell wedi’i sefydlu ar rannu gwerthoedd tegwch a gofal. Nid nwydd yn unig yw bwyd, mae’n ffynhonnell bywyd, ac yn dod a phobl at ei gilydd. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ymateb yn effeithiol i heriau byd-eang.
Beth yw atyniad y math yma o waith, a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i weithredu yn y gorffennol?
Mae prosiectau bwyd o ddiddordeb i mi yn arbennig gan fod bwyta a thyfu bwyd gyda’n gilydd yn ffordd rymus o gysylltu ac ysbrydoli pobl. Mae’n ein cysylltu yn naturiol i werthoedd rhanedig cymuned a dyma sydd yn allweddol wrth ymateb i newid hinsawdd yn fy marn i. Mae Bwyd Dros Ben Aber yn dangos sut mae hyn yn gweithio, gan ddefnyddio bwyd dros ben yr archfarchnadoedd i greu cysylltiadau newydd yn y dref a chael pobl i siarad am ddyfodol bwyd.
Dydy polisi llywodraethol ddim yn ddigon, Mae angen i hyn gael ei seilio mewn gweithred leol, ac yn cael ei gyfarwyddo ganddo. Felly mae dull Adfywio o weithio gyda grwpiau cymunedol a’u cysylltu i nodau cenedlaethol a byd-eang yn rhywbeth cyffrous i mi. Wedi gweithio mewn polisi ac fel gwirfoddolwr lleol rwyf yn awyddus gweld faint mwy gellir ei wneud i gyfuno’r ddau agwedd o newid cymdeithasol. Tra roeddwn yng Nghanolfan Organig Cymru trefnais sawl cynhadledd genedlaethol lle’r oedd trefnwyr cymunedol, athrawon, ffermwyr ac eraill yn cael slot siarad i rannu eu profiadau o fwyd mewn ysgolion. Rwyf hefyd wedi helpu trefnu digwyddiadau llai yn ymwneud â bwyd ledled Cymru, gan gynnwys arddangosfa cinio ysgol gyda chyflenwyr lleol a grwpiau cymunedol, cynhadledd fechan ar gyfer Bwyd Caerdydd, digwyddiad ‘straeon cawl’ gydag eglwys a synagog yng Nghaerdydd, cinio i bensiynwyr a phlant ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru, digwyddiad ‘Let’s Talk About Food’ yn Aberystwyth, nifer o brydau cymunedol, a the Nadolig cymunedol yn Aberystwyth llynedd.
Beth yw eich gweledigaeth o’r ardal rydych chi’n byw ac/neu’n gweithio ynddi yn 2050?
Yn 2050 nid yw pobl Aberystwyth yn cymryd bwyd yn ganiataol bellach. Gyda llawer mwy o gynhyrchu lleol, mewn gerddi, gofodau cyhoeddus a ffermydd, mae holl fwytai’r dref yn paratoi bwyd gyda chynnyrch o’r ardal leol. Mae yna economi bwyd cylchol, gydag ychydig iawn o wastraff, ac rydym yn falch iawn o’n hetifeddiaeth bwyd. Mae pobl ifanc yn dysgu sut i dyfu, coginio a bwyta â’i gilydd yn yr ysgol ac yn y brifysgol, ac mae pobl o bob oedran yn cymryd rhan mewn prydau rhanedig ac yn defnyddio cyfleusterau coginio cymunedol.
Mae hyn wedi digwydd am ein bod yn defnyddio bwyd fel ffordd o dynnu pobl at ei gilydd, gan gynnwys bwyd cymunedol a sesiynau garddio. Rydym yn cysylltu hyn i ymchwil yn y brifysgol a’r broses wleidyddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym hefyd yn cynnwys y bwytai, siopau a’r diwydiant twristiaeth i wneud y gorau o rym cysylltiad dynol i ddylanwadu ar newid byd go iawn. Rydym yn byw yn wahanol iawn nawr, llawer mwy o ganolbwyntio ar y bobl ac nid ar eiddo. Rydym yn hapusach.
Comments are closed.