Mae gen i gefndir o adfywio tir, adeiladu naturiol a meddwl creadigol. Rwyf wedi bod yn cynnal cyrsiau hyfforddi o’m mân-ddaliad ers dros 10 mlynedd, yn galw ar egwyddorion ecosystemau ffyniannus gwyllt i adfer bioamrywiaeth, sefydlu microhinsoddau a chreu systemau bwyd cynhyrchiol.
Rwy’n mwynhau gweithio gyda grwpiau amrywiol, yn darganfod tir cyffredin a datrysiadau ymarferol effeithiol i’r heriau sydd yn ein hwynebu. Rwy’n defnyddio’r broses dylunio permaddiwylliant i annog pobl i gysylltu prosiectau i’r dirwedd a’r ecosystemau o’u cwmpas.
Llynedd, casglais bopeth roeddwn i wedi’i ddysgu o addysgu ac o’r tir at ei gilydd, a llunio llyfryn gwaith ymarferol, y Dyluniad Permaddiwylliant Cefnogol, fel canllaw cam wrth gam i integreiddio pobl a lleoliadau. Rwy’n rhugl mewn amrywiaeth o dechnegau sydd yn gymorth wrth wehyddu gwydnwch i’n cynlluniau, trwy ddewisiadau sy’n ystyriol yn ecolegol, gan gynnwys safbwyntiau gwahanol ac wrth ddarganfod ffyrdd i gynnal ein hynni a’n brwdfrydedd.
Mae cydweithio gydag Adfywio yn adnodd gwych i grwpiau llawr gwlad i rannu gwybodaeth a phrofiadau a meithrin dealltwriaeth ranedig: cryfach gyda’n gilydd.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Mae’r math yma o waith yn apelio i mi, yn cael fy ysbrydoli gan rym pobl dda yn gwneud gwahaniaeth yn y byd. Fel oedolyn, rwyf wastad wedi bod yn rhan o gynaladwyedd, o bolisi ac ymgyrchu, i dyfu bwyd, atgyweirio ecosystemau a byw oddi ar y grid.
Rwy’n bwriadu rhannu popeth rwyf wedi’i ddysgu i helpu prosiectau sydd o’r un meddylfryd ac rwyf yn awyddus i ddysgu gan bobl eraill ar yr un llwybr. Rwyf wedi helpu prosiectau amrywiol i ymgorffori meddwl dylunio permaddiwylliant i mewn i’w gweithgareddau, yn amrywio o gydweithfa artistiaid i Fferm Dinas Dulyn. Mae hyn wedi cynnwys dylunio a sefydlu gardd gymunedol, cynghori ar ddeunyddiau addysgiadol, ac ysgrifennu cynigion llwyddiannus am arian i gychwyn prosiectau.
Rwyf wedi helpu grwpiau wrth ysgrifennu adroddiadau ac ymchwil, e.e. cyfleu’r profiad helaeth a chydweddu hyn i amcanion polisi perthnasol. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda sawl grŵp i ddarganfod tir cyffredin, adnabod cryfderau a sgiliau a rhannu’r ysbrydoliaeth yma gyda phrosiectau eraill. Yn ddiweddar, mentorwyd grŵp ieuenctid lleol Streicio ar gyfer Newid Hinsawdd i ganfod gweledigaeth glir i gyfathrebu i’r PCC a chynghori ar ffyrdd creadigol gallant fynegi eu pryderon.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Fy ngweledigaeth bositif ar gyfer 2050 ydy byd ble fydd cymunedau ac ecosystemau yn ffynnu. Byddem yn cyrraedd y pwynt hwn wrth werthfawrogi llefydd, pobl a’n hunain. Bydd coridorau bywyd gwyllt yn gwau drwy’r trefi, pentrefi a chefn gwlad, yn cildroi’r tuedd o ddilead rhywogaethau. Bydd adar, mamaliaid a phryfed yn croesi’r tir yn anweledig i ddarganfod bwyd a rhamant dan fantell y nos. Mae’r caeau yn gyfoeth o gnydau amrywiol ac mae technegau amaeth goedwigaeth yn cadw ein priddoedd a’n dŵr gwerthfawr, tra bod coedwigoedd yn tawelu tywydd eithafol. Mae masnachu’n syml ac yn hyblyg i gynhyrchwyr lleol.
Comments are closed.