Rwyf yn gyfarwyddwr Praxis, Datblygiad Cymunedol ac Ymgynghoriaeth Menter sydd yn cael ei ategu gan werthoedd cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a chynhwysiad. Rwyf yn wybodus ac yn brofiadol mewn theori ac ymarferiad ymgynghoriaeth, ymrwymiad a rhoi grym cymunedol; perthnasau pŵer o fewn a rhwng cymunedau ac ymatebiadau i anghyfartaledd strwythurol. Mae gen i hanes cryf mewn ymrwymiad cymunedol, datblygiad economaidd yn y gymuned, yn enwedig gyda chymunedau dosbarth gweithiol, sefydliadau merched a grwpiau, rhwydweithiau a chymunedau eraill sydd dan anfantais yn strwythurol. Mae gen i 35 mlynedd o brofiad ymhob agwedd o reolaeth Trydydd Sector a datrys trafferthion; adolygu a datblygu strategol, cynllunio gweithredoedd a busnes, gwerthuso, cryfhau gallu, hyfforddiant a hwyluso.
Cychwynnais gydag Adfywio gan fy mod yn credu bod egwyddorion a dulliau datblygu cymunedol yn hanfodol i ddod i’r afael â newid hinsawdd. Rwyf yn cefnogi grwpiau gwirfoddol, cymunedol a sefydliadau i asesu eu cyfraniad i newid hinsawdd a pa weithrediadau gallant eu cyflawni i leihau’r effaith maent yn ei gael ar hinsawdd. Mae gen i swydd yn Atebion Mentrus hefyd, yn cynorthwyo grwpiau gwirfoddol, cymunedol a sefydliadau i ddatblygu syniadau menter.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Roedd fy ngwaith gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) ar gyfer Adfywio Cymru yn cynnwys cyflwyno Silas Jones fel mentor cyfoed o Gadwyn Clwyd. Roedd yn gweithio gyda Gardd Furiog Fictoraidd Erlas i gyflawni dadansoddiad buddiannau cost yn ymwneud â gosod paneli ffotofoltaidd (PV) ychwanegol ar yr adeiladau hen yn yr ardd (sydd yn cael eu defnyddio fel swyddfeydd) ac ar y prif adeilad mwy newydd sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith gyda gwirfoddolwyr a rhai dan hyfforddiant. Darganfyddiadau’r dadansoddiad yma oedd nad oedd hwn yn weithred fydda’n effeithiol o ran cost gan y byddai’r paneli PV yn cynhyrchu ynni ar ddyddiau heulog ran amlaf, ar gyfnod pan nad oes angen yr ynni, ac ychydig iawn fydda’n cael ei gynhyrchu yn y gaeaf pan fydd angen mwy o ynni i gynhesu a goleuo’r adeiladau. Hefyd, yn y blynyddoedd diweddaraf, mae’r swm sydd yn cael ei dalu gan y Llywodraeth am ynni sydd yn cael ei ddarparu i’r Grid Cenedlaethol (‘tariff bwydo i mewn’ neu ‘FiT’) wedi gostwng, ac felly ni fyddai’n gwneud digon o incwm ac arbedion ynni o reidrwydd i gyfiawnhau’r gost o osod y paneli. Roedd yr adroddiad cynhyrchwyd gan Silas yn cynnwys awgrymiadau ar amrywiaeth o fesuriadau arbed ynni fel arall, fel diweddaru’r system gwres yn y bythynnod, fydda’n gallu cael ei weithredu gan Erlas pan fydd ganddynt yr adnoddau a’r gallu i wneud hynny.
Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ardal yn 2050?
Yng Ngwynedd yn 2050 byddaf yn gweithio llai o oriau, ac oriau mwy craff, fel bod gen i’r amser i dyfu llysiau organig a dysgu ryseitiau newydd a ffyrdd o fwyta a choginio heb gig. Bydd y tŷ wedi cael ei insiwleiddio ond ei awyru hefyd a byddem yn cynhyrchu ein hynni yn lleol gan ddefnyddio cynllun hydro-electrig y pentref a phaneli solar. Bydd gennym gynllun benthyg a rhannu ceir trydan a beiciau yn y pentref fel nad oes angen ceir ein hunain nac defnyddio’r bws. Byddem wedi cymryd cyngor ar yr hyn gallem ei losgi yn ein llosgwr coed heb wenwyno ein cymdogion, a byddem yn berchen ar, ac yn rheoli defnydd ein cyfleusterau tyfu coed lleol. Bydd ein ffermydd lleol wedi newid o gynhyrchu cig eidion, oen a chynnyrch llaeth i dyfu graen a llysiau. Byddem yn malu blawd ein hunain yn lleol ac yn pobi ein bara.
Comments are closed.