Fy enw i yw Jeremy Thorp ac rwyf yn gweithio i Shareenergy, cydweithredfa nid er elw wedi’i sefydlu yn 2011 i ddarparu cefnogaeth ac i helpu sefydlu cynlluniau ynni cymunedol ledled y DU. Rydym yn arbenigo yn y meysydd trefn lywodraethol, cynlluniau ariannol a chodi cyfalaf o gyfrannau cymunedol, ond hefyd yn darparu grwpiau gyda chefnogaeth fwy cyffredinol gyda meysydd cytundebau perchnogion tir, caniatâd cynllunio a OFGEM/Tariff Bwydo i Mewn. Rydym hefyd yn darparu gweinyddiaeth a gwasanaethau cyfrifo cost isel wedi’i deilwro i anghenion y cymdeithasau ynni cymunedol. Rydym wedi gweithio gyda sawl prosiect ledled Cymru gan gynnwys Trydan Cydweithredol Corwen, Ynni Teg, Egni Cymunedol Grannell, Ynni Anafon ac Egni. Rydym yn angerddol am helpu tyfiant ynni cymunedol fel dewis moesegol democratig amgen i’r cewri ynni amlwladol.
Dywedwch wrthym am brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio…
Rwyf wedi bod yn cynnig cefnogaeth i’r cydweithredfa PV solar Egni trwy Adfywio, yn eu helpu i baratoi model ariannol cadarn ar gyfer portffolio o osodiadau PV ar doeau adeiladau cymunedol, ac yna rhedeg cynnig rhannu llwyddiannus i godi cyfalaf ar gyfer y gosodiadau, gydag arddangosiad blaengar o ynni cymunedol Cymraeg.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Erbyn 2050 bydd y byd wedi effro i bwysigrwydd CO2 a bydd pob kg o garbon y cael ei gyfrif fel nad oes dim gwastraff. Bydd holl fiomas yn cael ei gasglu a’i drawsnewid i ynni a bydd holl adeiladau yn cynnwys PV. Bydd y cyflenwad egni yn cael ei ddominyddu gan PV ac ynni gwynt. Bydd cymdeithas wedi pegynnu hyd yn oed fwy i mewn i’r rhai sydd efo a’r rhai sydd heb (neu’r grymus a’r di-rym), os nad ydym yn gwthio am gydraddoldeb gwell. Mae perchnogaeth gymunedol yn ffordd i gyflawni hyn.
Comments are closed.