Mae Trawsnewid Caerdydd yn credu mewn gweithredu lleol i gyflawni newidiadau positif i’r argyfwng byd-eang o newid hinsawdd. Fy nghysylltiad cyntaf gyda Thrawsnewid Caerdydd oedd trwy aelod o’r teulu a bellach mae fy nheulu a finnau yn taclo gwastraff ac ysbwriel mewn ffordd greadigol wrth drawsnewid rhywbeth sydd wedi ei daflu i rywbeth defnyddiol. Cychwynnais hyn ar ben fy hun ac rwyf bellach wedi annog dros lond llaw o ffrindiau a theulu i gymryd rhan hefyd. Rydym wedi creu gweithdy cymunedol i droi diddordeb i mewn i fusnes cefn gwlad fach sydd yn datblygu’n araf i mewn i fenter gymdeithasol gyfunol sydd yn cael comisiynau o ledled y byd. Mae’r mwyafrif o’n hamser yn cael ei dreulio yn mwynhau glanhau traethau a choedwigoedd, felly rydym yn gweithio’n bennaf gyda gwastraff traeth, coetiroedd ac adeiladu fel broc môr, boncyffion a phaledi. Mae’r eitemau sydd wedi’u creu yn amrywio o grefftau tymhorol i ddodrefn arbennig i’r cartref. Fel merch rwyf yn teimlo’n rymus i rannu fy sgiliau gyda tŵls pŵer a thŵls crefft a rhoi hyder i eraill roi tro arni. Mae bod yn fodel rôl bositif i fy ngenethod yn eu harddegau yn bwysig iawn i mi.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Rwyf yn berson angerddol sydd yn credu mewn amddiffyn ein hamgylchoedd lleol ar gyfer mwynhad pawb wrth i mi dreulio amser yn archwilio’r coed a’r traethau yn fy ardal gyda fy nheulu, ffrindiau a chŵn. Cychwynnom gymryd rhan yn yr economi tymhorol cefn gwlad a theimlo pryder am yr holl sbwriel a deunyddiau dros y lle. Daethom at ein gilydd fel cymuned i uwchsgilio ein gilydd. Mae gen i dros 8 mlynedd o brofiad mewn crefftau coed a phedair blynedd yn uwchgylchu coed gwastraff a deunyddiau traeth.
Dechreuom weithio gyda Thrawsnewid Caerdydd 5 i 6 mlynedd yn ôl ar ôl helpu mewn digwyddiad cymunedol Nadolig yn Chapter, yn arddangos sgiliau tymhorol yn creu torchau Nadolig a choed Nadolig dail. Rydym wedi bod yn gweithio gydag elusen leol yn y Pentrebane Zone hefyd, yn datblygu gweithdai a sesiynau uwchsgilio yn eu gweithdai cymunedol newydd. Wrth weithio gyda deunyddiau mae gennym fwy o hyder i daclo materion cymdeithasol ac amgylcheddol gyda’n gilydd. Wrth gynnal gweithdai rydym wedi darganfod ein bod yn gallu ysbrydoli eraill i edrych ar ffrwd gwastraff eu cymdogaeth yn wahanol a meddwl am ddatblygu eu heconomïau lleol yn ogystal â’r amgylchedd. Mae ein cymuned leol bellach yn y broses o edrych ar sefydlu menter gymdeithasol yn ymwneud â hyn.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Hoffwn weld plastig un defnydd yn rhywbeth o’r gorffennol, ein bod yn rhannu sgiliau a gallu yn rhydd rhwng ein gilydd ac nad oes gennym gymdeithas sydd yn cael ei yrru gan brynwyr ond un sydd yn adeiladu pethau i barhau yn gyntaf, yn atgyweirio a thrwsio eitemau sydd wedi torri yn ail, ac yna normaleiddio ail-bwrpasu neu ailgylchu eitemau yn drydedd.
Comments are closed.