Cychwynnais fy ngyrfa fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannydd rheweiddiad. Deilliodd fy niddordeb mewn pympiau gwres o weithio gyda Chanolfan y Dechnoleg Amgen yn yr 1980’au. Cychwynnais gynhyrchu systemau pwmp gwres unigryw yn y cyfnod hwn. Pan gychwynnodd y grantiau DU cyntaf (Clear Skies), roeddwn yn arolygwr i BRE oedd yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun cyntaf. Gwybodaeth bellach ar heatpumps.co.uk. Rwyf yn awyddus i gefnogi prosiectau cymunedol ac yn hapus i weithio gyda chynlluniau ble mae arian yn brin.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Cynorthwyais Ganolfan Gymunedol Hermon oedd wedi gosod system pwmp gwres o’r awyr. Roedd yr offer sylfaenol yn eithaf da, ond roedd rhai manylion y system wedi’u ffurfweddu yn anghywir. Gosodais system monitro rhyngrwyd cod agored (openenergymonitor.org) i ddeall sut roedd y system yn perfformio.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Rydym yn byw mewn cymdeithas sydd yn wastraffus iawn gyda ynni. Mae’n ymddangos fel bod llawer iawn o gwmnïau yn hyrwyddo ychwanegiadau atebion gwyrdd i geisio arbed ynni. Nid dyma’r dull gorau bob tro yn fy marn i. Mae gen i ddiddordeb i fanwl gyweirio ein systemau presennol a chredaf y gellir arbed llawer iawn gyda chynhaliaeth a threfniadaeth dda yn ogystal ag addasiadau pan fydd angen. Mae’n beth da cadw pethau’n syml os yw hyn yn bosib, ac rydym angen gweledigaeth tymor hir.
Comments are closed.