Rwyf wedi bod yn Brif Weithredwr AVOW, sef Cyngor Gwirfoddol Sir Wrecsam, ers 20 mlynedd bellach ac rwyf wedi magu dealltwriaeth sylweddol am y materion sydd yn cael effaith ar sefydliadau’r Trydydd Sector. Mae gen i ddiddordeb penodol yn y ffordd mae sefydliadau wedi gallu addasu yn ystod y cyfnod Covid a’r ffordd rydym bellach yn symud tuag at chwyldro digidol ar draws y sector – yn fewnol yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn allanol yn y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn cefnogi pobl yn ein cymunedau. Mae gen i brofiad mewn holl elfennau rheolaeth gan gynnwys – Adnoddau Dynol, Gwirfoddoli, Cyllid, Iechyd a Diogelwch, TG, gofalu am asedau a cheisiadau grant.
Yn flaenorol, roeddwn yn rhedeg busnes fy hun yn cyflogi dros 30 o staff mewn gosodiad cymunedol gan fagu profiad yn rheoli prosiectau, rheoli cyllid, marchnata, diogelwch a systemau TG manwerthu.
Rwyf hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd ar liwt fy hun ar sawl prosiect Datblygiad Economaidd y Cyngor Sir, yn cynghori ar fanwerthu ac adfywiad tref yn ogystal â gwaith i Sefydliad Cymorth Elusennol yn cynnal archwiliadau iechyd.
Rwy’n ymroddedig i wella safonau yn y Trydydd Sector ac yn Aseswr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn helpu sefydliadau i gyrraedd y safon, yn ogystal â gweithio i sefydliad sydd wedi derbyn achrediad Buddsoddi Mewn Pobl.
Beth yw atyniad y math yma o waith?
Dyma’r tro cyntaf i mi fod yn Fentor gyda Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru ond rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r gwaith da ers nifer o flynyddoedd. Mae’r syniad o helpu sefydliadau i adnabod eu cryfderau a’u huchelgeisiau yn allweddol i ddatblygu Trydydd Sector cryf a bywiog yng Nghymru. Bydd y Gefnogaeth Mentor yn caniatáu i mi helpu sefydliadau i ddatblygu eu gweledigaeth mewn partneriaeth â’r buddiolwyr ac aelodau’r gymuned.
Weithiau, mae gweithio a gwirfoddoli yn y Trydydd Sector yn gallu gwneud i bobl deimlo fel mai nhw yw’r unig rai sydd â phroblem neu fater penodol, ond nid dyma’r achos ran amlaf. Bydd Mentor yn dod a gwybodaeth i’r sefydliad i helpu iddynt ddeall bod eu mynydd nhw yn bentwr o bridd i rywun arall gan eu bod nhw wedi goresgyn y problemau yma eisoes.
Wedi bod yn ymddiriedolwr ar gyfer sawl sefydliad dros y blynyddoedd, mae gen i fewnwelediad o’r ddwy ochr – sefydliadau sydd angen cymorth yn ogystal â bod yn rhywun sydd wedi darparu cymorth. Mae’r sefydliadau rwyf wedi gweithio â nhw yn cynnwys Plant a Phobl Ifanc, Grwpiau Heneiddio’n Dda, Pobl ifanc wedi’u heithrio/NEET, Pwyllgorau Ffydd a chyrff creu grantiau. Mae angen set gwahanol o sgiliau i bob un o’r rhain, ac rwyf yn hapus i rannu’r rhain fel Mentor.
Beth yw eich gweledigaeth chi ar gyfer yr ardal yn 2050?
Mae heriau Covid wedi newid pethau yn llawer mwy sydyn, a chyfathrebiadau digidol wedi symud ymlaen ar raddfa heb ei debyg o’r blaen. Bydd yr amrywiaeth ehangach o ddigideiddio yn rhoi llawer o sefydliadau mewn sefyllfa gryfach yn sydyn iawn gan ddal mwy a mwy o ddata ar y bobl sydd yn cael eu helpu – bydd llawer o sefydliadau yn dioddef gan nad ydynt yn ymateb yn ddigon sydyn. Mewn llai nag 3 blynedd bydd bot sgwrsio ac ymgnawdoliadau yn ffordd arferol o gynnal cysylltiad cychwynnol – bydd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial i ragweld y galwad, ac i ymateb i faterion sydd yn codi cwestiynau’n aml, yn dod yn beth cyffredin gan ryddhau amser gweithwyr i gynnal gwaith wyneb i wyneb pwysig.
Comments are closed.