Fi yw’r swyddog cyngor a chefnogaeth gymunedol yn Interlink RCT, ac felly rwyf mewn sefyllfa dda i gysylltu gyda sefydliadau gan mai Interlink yw’r pwynt cyswllt cyntaf i grwpiau, nifer sylweddol ohonynt yn gweithio ar weithredu hinsawdd; bod hynny’n adeilad cymunedol presennol, edrych ar leihau biliau ynni, neu fenter tyfu bwyd cymunedol newydd. Gallaf hefyd fuddio o adnoddau’r sefydliad cynnal, ei bartneriaid a holl wybodaeth y sector, i sicrhau bod cymunedau yn derbyn y gefnogaeth gorau bosib pan ddaw at sefydlu, cynnal, datblygu cynlluniau busnes a sicrhau cyllid. Mae Adfywio yn cynnig haen ychwanegol o gefnogaeth i Interlink a gallem alw ar gymorth mentor i ymglymu ei hun yn natblygiad, dyluniad a throsglwyddiad prosiect.
Dywedwch wrthym am brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio.
Helpu Cyngor Tref i Ymateb i’r Ddeddf LlCD – Cynorthwyais Gyngor Tref Pontypridd i ddiogelu’r gefnogaeth oedd ei angen i ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:
- Roedd y prosiect cyntaf yn edrych ar y ffordd roedd comin Pontypridd yn cael ei reoli gan ystyried bioamrywiaeth a bywyd gwyllt.
- Roedd yr ail yn edrych ar y ffordd byddant yn gweithio gyda thenantiaid y rhandiroedd ledled yr ardal i ddatblygu strategaeth rheoli rhandiroedd newydd.
Yn gweithio gyda’r awdurdod lleol, cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ar sut gall rhandiroedd wneud ceisiadau am grantiau i wella’r safleoedd gyda’r Cyngor Tref a’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru (CLAS). Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio gyda’r Cyngor Tref i drefnu digwyddiad ‘Pontypridd Gwell’ oedd yn cysylltu gyda phreswylwyr lleol a grwpiau cymunedol am yr hyn roeddent yn ei wneud i wella’r ardal. Mynychodd dros 50 o bobl y digwyddiad yma, lle’r oeddent yn trafod themâu’r iaith Gymraeg a Diwylliant, Llais Cryfach, Tyfu Ponti, Rhwydweithiau Lles a Chyflogaeth a Hyfforddiant.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Unai fel Incredible Edible Todmorden neu dan y dŵr gan amlaf!
Comments are closed.