Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn bodoli i gefnogi a datblygu cynhyrchiad bwyd a ffibr yn y gymuned yn ei holl ffurfiau, gan gynnwys gerddi cymunedol, rhandiroedd, ffermydd cymunedol/dinasol, coedwigoedd a choetiroedd cymunedol, Ffermydd Gofal a phrosiectau Amaeth â Chymorth y Gymuned.
Mae gan y sefydliadau hanes hir o gefnogi prosiectau yn eu hardaloedd penodol. Sefydlwyd yn 1980 i gefnogi ffermydd cymunedol a gerddi ledled y DU. Mae’r swyddfeydd yng Nghymru wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, y Drenewydd a Bangor, ynghyd â swyddfeydd eraill yn y DU. Rydym mewn lleoliadau cyfleus i gyrraedd amrywiaeth o grwpiau cymunedol, trwy’r grwpiau tyfu cymunedol sydd yn derbyn ein cefnogaeth ac amryw o’n cysylltiadau yn y sector. Mae gennym berthynas hir gydag Adfywio Cymru gyda gorgyffwrdd o waith tebyg mewn rhai achosion. Fel Gweithiwr Datblygu, rwyf yn cynnig cefnogaeth i grwpiau tyfu cymunedol yn Ne Cymru yn amrywio o gwpl o botiau plannu ar ben stryd i brosiectau gerddi cymunedol mawr.
Beth yw atyniad y math yma o waith, a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i weithredu yn y gorffennol?
Yn bersonol, mae gen i ddiddordeb mawr mewn newid hinsawdd a chynaladwyedd ac yn ddiweddar rwyf wedi cwblhau hyfforddiant Llythrennedd Carbon gyda’r Prosiect Llythrennedd Carbon. Mae gen i gefndir mewn dyluniad tirwedd a garddwriaeth gyda lefel dda o wybodaeth yn y meysydd yma.
Fel Gweithiwr Datblygu, rwyf yn darparu cefnogaeth gyda’r canlynol:
- Cysylltu gyda’r gymuned leol a denu gwirfoddolwyr newydd
- Gwella’r cyfleusterau a nodweddion presennol neu osod rhai newydd
- Cyngor, hyfforddiant a gweithdai garddwriaeth
- Ymweliadau at brosiectau eraill i ehangu gwybodaeth
- Trefnu diwrnodau mentora gan ddefnyddio un o’n mentoriaid ymroddedig
- Ceisiadau am gyllid
- Cynaladwyedd amgylcheddol
Rwyf hefyd yn cyfeirio grwpiau at ein cynghorwyr arbenigol ar faterion tir a les, cynllunio busnes, cynhyrchu incwm a menter gymdeithasol. Rwyf yn annog y grwpiau rwy’n cefnogi i ddefnyddio dulliau cynaliadwy fel deunyddiau ailgylchu, casglu dŵr a chompostio, lleihau’r defnydd o gemegau a chynhyrchu cymaint o fwyd â phosib ble’n addas. Rwyf wedi cwblhau hyfforddiant Cadw Cymru’n Daclus yn ddiweddar i ddod yn Feirniad Fflag Werdd a bydd hyn yn ehangu fy nghysylltiadau yng Nghymru ac yn atgyfnerthu fy ngwybodaeth cynaladwyedd amgylcheddol.
Beth yw eich gweledigaeth o’r ardal rydych chi’n byw ac/neu’n gweithio ynddi yn 2050?
Hoffwn weld llawer mwy o bobl tyfu bwyd, bod hyn yng ngardd eu hunain, ar randiroedd neu fel rhan o grŵp tyfu cymunedol. Rwyf yn cynnal prosiect tyfu cymunedol yn fy mhentref ac yn gweithio tuag at gyrraedd mwy o bobl gyda chynnyrch ffres trwy’r banc bwyd lleol. Hoffwn weld hyn yn digwydd ledled y wlad.
Comments are closed.