Rwyf yn adeiladwr, garddwr a ffotograffydd cynaliadwy. Fel gwirfoddolwr, yn 2016 dechreuais adfywio’r ardd llysiau yn y ganolfan hamdden, yn ei alinio gyda’r Rhwydwaith Bwyd Bendigedig. Weithiau roeddwn yn garddio fy hun, ond yn araf bach ymunodd grŵp bychan o bobl. Ar ôl dwy flynedd (ar ôl cwblhau fy MSc) roeddwn eisiau buddsoddi amser yn datblygu’r prosiect ymhellach ac felly cysylltais ag Adfywio i weld os gallant helpu. https://www.facebook.com/ediblemadog
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
Roedd yr MSc yn canolbwyntio ar gynaladwyedd. Magais ddiddordeb mawr mewn isadeiledd bwytadwy trefol wrth astudio’r modiwl ‘Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy’, ac roeddwn yn awyddus i weithredu hyn yn fy nghymuned. Yn y gorffennol rwyf wedi gwirfoddoli fel aelod pwyllgor Cymdeithas Eryri (1996-98) ac yn Ysgol Steiner Meadow, Bruton, Gwlad yr Haf fel aelod pwyllgor ac adeiladwr (2002-04). Yn Ysgol Steiner, Orgiva Granada Sbaen roeddwn yn sefydlydd, aelod pwyllgor ac adeiladwr (2004-08). Yn fwy diweddar (2014-17) rwyf wedi bod yn gweithio mewn gwersylloedd mudwyr yn Almeria, Sbaen, yn adeiladu toiledau compost a gerddi bwyd, ar brosiect gwirfoddolwyr cychwynnais o’r enw ‘Salad workers in Spain’.
https://www.cat.org.uk/salad-workers-of-spain/
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Bellach gallem glywed a gwerthfawrogi’r adar a’r gwenyn. Mae’r strydoedd wedi cael eu hadennill yn araf bach gan gymunedau dirgrynol, gyda thrafnidiaeth trydan sydd yn symud yn arafach, yn creu awyrgylch glanach a fwy dymunol.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi’i wella bob blwyddyn; bellach yn ffordd cost isel ac effeithlon i deithio, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae pobl yn teithio llai ac wedi dod i arfer â cheir cymunedol a systemau gwres ac ynni cymunedol yn cael ei rannu gan gartrefi effeithlon. Bydd yna ddigonedd o fwyd a choed yn tyfu yn yr holl ardaloedd sydd yn agos at bobl. Mae cyfnewid hadau, planhigion a ryseitiau wedi dod yn ddigwyddiadau cymdeithasol arferol.
Comments are closed.