Rwyf yn cynrychioli’r bobl arferol sydd yn angerddol am gyfrannu i’w cymuned leol, i gyflawni newid cadarn. Mae fy mhrofiad, sgiliau a gwybodaeth wedi tyfu, o’r gwraidd i fyny – wedi dysgu drwy gysylltiadau gwerthfawr gyda’r rhai o’m nghwmpas ac wrth ymdrochi ym mhethau. Rwyf wedi sefydlu grŵp Gwerin Crefftau Pren i deuluoedd lleol iddynt fedru mwynhau amser arbennig yn yr awyr agored. Rwyf wedi fy ethol fel cynghorydd cymunedol (annibynnol) a bellach yn ymroddi fy holl amser, fel sefydlydd, i ‘Grow For It’: Gardd Gymunedol a Llesiant Llantrisant. Mae ‘Grow For It’ yn canolbwyntio ar therapi garddwriaethol, tyfu bwyd a chreu ardaloedd i drychfilod peillio, lleihau gwastraff/uwchgylchu ac, wrth galon popeth, cysylltu pobl â’i gilydd.
Rwyf yn mwynhau cysylltu gyda phobl o wahanol gefndiroedd ac rwy’n arbenigo mewn adnabod ac ennyn gwerthoedd ac angerdd. Fel rhwydweithiwr brwd, o fewn y gymuned a’r trydydd sector lleol, gallaf awgrymu cysylltiadau defnyddiol a’r offer a’r cyfleoedd diweddaraf, i wneud y gorau o werthoedd cyfunol ac unigol er budd y gymuned a’r prosiect. Mae gen i angerdd i ysgogi eraill wrth wyntyllu syniadau yn gydweithiol, annog grwpiau i feddwl y tu hwnt i’r arferol ac i ddarganfod ffyrdd ymarferol, posibl i weithredu gweledigaethau.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
O brofiad, rwy’n ymwybodol iawn o gryfder cyfunol cymuned ofalgar a threulio amser mewn natur, i gefnogi trwy drallod. Newidiodd fy mywyd pan brofais y fath ymyriad, pan oeddwn yn byw yn Sweden. Pan ddychwelais i Gymru roeddwn yn benderfynol o ddatblygu’r un diwylliant cyd-gefnogol yn fy ngwlad enedigol, gan barhau gyda gwaith fy niweddar dad i atal problemau camddefnyddio alcohol a sylweddau. Roedd yn ymgyrchu dros y cred fod materion iechyd meddwl yn graidd y mwyafrif o broblemau dibyniaeth a bod gan y gymuned ran bwysig i chwarae yn yr ataliad yma. Mae’r fy nghyfnod gyda grwpiau cymunedol a thyfwyr eraill, yn gwrando ar brofiadau gwirfoddolwr, mynychu gweithdai, ymchwilio a dysgu, wedi cadarnhau gwirionedd hyn.
Fel cymunedau mae gennym botensial eang i wneud gwahaniaeth wrth graidd ein problemau, ble mae unigrwydd a diffyg natur yn bodoli. Dyma pam, pan fyddaf yn cysylltu gydag unigolion neu grwpiau sy’n ymdrechu i rymuso cymunedau, gwnaf yr hyn y gallaf i helpu – bod hynny’n cynnig awgrymiadau / yn ysgogi / gwneud cyflwyniadau / rhannu fy mhrofiad. Mae’n deimlad gwobrwyol gweld grwpiau yn symud ymlaen, yn ennill gwobrau cydnabyddiaeth ac yn cael eu defnyddio fel astudiaethau achos positif i ysbrydoli eraill.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o benderfyniadau sydd yn fuddiol i’r amgylchedd erbyn 2050 – yn amddiffyn gofodau naturiol gyda chynllunio amgylcheddol tynn, grid ynni yn rhedeg yn gyfan gwbl ar ynni adnewyddadwy ac adnewyddiad i gymhelliannau sydd yn annog perchnogion tir i blannu mwy o goed. Rhagwelaf y bydd cymunedau a’r trydydd sector yn cymryd mwy o ran flaenweithgar wrth amddiffyn amgylchedd Cymru a gostwng ein hôl troed carbon. Rwy’n gweld cymunedau grymus, hunan cynhaliol – mwy o ynni, tai a chwmnïau cydweithredol llesiant – mwy o berchnogaeth tir cymunedol, a thueddiad mwy tuag at gyfranogiad cymunedol. Grwpiau gwirfoddol cryfach, sydd yn dod yn fwy hunangynhaliol gyda mwy o fuddsoddwyr angel a chronfeydd torf a llai o ddibyniaeth ar y llywodraeth. Rwy’n gobeithio bydd yr ysgolion yn dilyn egwyddorion dysgu Sgandinafaidd gyda mwy o ddysgu awyr agored, yn magu mwy o barch i’r amgylchedd a’r bywyd gwyllt lleol ymysg ein dyfodol genhedlaeth.
Comments are closed.