Yn dilyn 39 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, yn contractio ac yn rheoli’r gadwyn cyflenwad, cychwynnais gydag Adfywio ar ôl gweld ehangder y mentrau strategol gellir eu defnyddio i fuddio cymunedau sydd eisiau cofleidio gweithgareddau newid hinsawdd.
Mae targedau Ynni Cymunedol, Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon yn gyfle i gysylltu gyda’r gymuned. Yn y dwylo cywir, bydd y gweithgareddau yma yn ysgogi’r bobl leol i gyflawni newidiadau dros eu hunain. Credaf fod gweithredu’n bositif yn adfywio ein pobl, ein hadeiladu a’n hysbryd cymunedol. Rwy’n cyflwyno datrysiadau ymarferol i ymateb i brinder sgiliau sector benodol gan gynnwys hyfforddiant Ynni Adnewyddadwy. Mae fy llwyddiannau presennol yn cynnwys prosiect ynni cymunedol raddfa fach WEFO 1.6 miliwn a phrosiect cartref henoed 2.2 miliwn sydd yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Mae cymuned sydd yn gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni ei hun yn gallu lleddfu tlodi tanwydd, ymateb i anghydraddoldeb cymdeithasol a hyrwyddo diwylliant o ofalu a rhannu dros eu hunain. Mae fy nghytundebau yn darparu datrysiadau ymarferol i oroesi amrywiaeth eang o rwystrau cymdeithasol. I gychwyn prosiectau rwyf yn darganfod datrysiadau, hyrwyddo arloesiad, creadigrwydd a rhoi grym cymunedol. Mae gen i ymwybyddiaeth helaeth o raglenni prif lif, gwasanaethau ac arian sydd ar gael i ymateb i rwystrau cymdeithasol.
Dywedwch wrthym am brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio…
Yn fis Hydref 2016 roedd cynyddiad ym malchder a chyfranogiad cymuned yn hwb iddynt i fagu diddordeb i ddiogelu capel cymunedol. Roedd sylweddoli bod nifer fawr o adeiladau cymunedol yn cael eu cau, eu gwerthu a’u bordio i fyny oherwydd y costau o gynnal yr adeiladu, yn sbardun amrywiaeth o syniadau i wella cyfleusterau cymunedol. Datblygwyd tair cymdeithas ffrindiau a rhannwyd gwybodaeth yn ymwneud â buddiannau, o gynigion cyfranddaliadau a pherchnogaeth gymunedol. Roedd cynhyrchu ynni cymunedol ein hunain i leihau costau rhedeg yn rhan bwysig iawn o’r datrysiad.
Yn fis Ebrill 2017 arweiniais ymateb i alwad WEFO am brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, a chyflwynais gais £1.6 miliwn yn dangos bod cymunedau Aberfan ac Ynysowen yn gallu gweithio tuag at fyw’n carbon sero, wrth leihau costau cynnal ei adeiladu a chynhyrchu incwm i ddefnydd cymunedol. Roedd y cais yn llwyddiannus yn y cam cyntaf, ond gyda chefnogaeth yn brin i gwblhau’r cam nesaf cychwynnais Fwrdd Prosiect a gwneud cais am 20 mil i ddatblygu cynllun busnes. Cychwynnodd cyfnod symud y prosiect fis Hydref 2018. Galluogodd hyn i’r gymuned osod solar PV a batris storio ar ei holl adeiladau awdurdod lleol a chymunedol yn ogystal ag amrywiaeth o eiddo busnes a phreswyl. Mae CHP (Gwres a Phŵer Cyfunol) yn cael ei gynnwys ar gyfer y pwll nofio cymunedol.
Mae’r prosiect yn cynnwys cyllid i 550 o eiddo preswyl, ardaloedd cymunedol, llwybrau, meinciau a cherbydau reidio solar a blodau solar i fynwent, mannau gwifrio cerbydau trydan, solar wedi’i fowntio ar y llawr ac academi sgiliau. Mae yna brosiect cyfnewid cartref i’r henoed ble mae pobl hŷn sydd bellach ddim angen eu cartref yn gallu cyfnewid hwn am bwerdy un llawr. Mae’r pwerdy yn cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n defnyddio sydd yn golygu byw heb gyfleustodau i’r preswylwyr. Mae’r rhent o’r cartref cyfnewid yn talu holl gostau byw’r perchennog yn y cartref newydd. Mae’r EHE yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Tai Arloesol. Mae’n fodel codi a gollwng sydd yn gallu cael ei ailadrodd ledled Cymru – a’r model ynni cymunedol hefyd. Mae byw yng ngharbon sero yn cynnwys prosiectau tyfu eich hun ac opsiynau trafnidiaeth arall. Rydym wedi datblygu rhaglen cymhelliant i ddatblygu actifyddion cymunedol fydd yn cymryd cyfrifoldeb am y datblygiadau sydd yn seiliedig ar asedau sydd wedi’u gosod.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Fy ngweledigaeth ar gyfer 2050 ydy bod Llythrennedd Carbon yn y gymuned wedi gwella cymaint fel bod ganddo bellach statws sgiliau hanfodol ar y cwricwlwm. Mae dysgu wedi caniatáu i bobl ifanc weithredu ar newid hinsawdd ac wedi galluogi perchnogaeth a mentergarwch cymunedol i ffynnu.
Mae cymunedau bellach yn cynhyrchu mwy o ynni nag y sydd angen. Mae’r gwasanaeth cyfnewid cartref henoed dyluniais wedi cael ei ailadrodd ymhob sir. Mae’r bobl hŷn yn byw yn hirach ond yn byw yn annibynnol mewn gosodiadau cymunedol ble mae’r cartrefi Pwerdy yn gadael iddynt fyw’n rhydd o gyfleustodau. Mae cartrefi henoed drud bellach yn brin. Mae Pwerdai wedi cymryd lle’r adeilad traddodiadol a bellach yn ymddangos mewn gosodiadau cymunedol sydd yn pontio’r cenedlaethau.
Mae Tlodi Tanwydd wedi’i ddileu. Mae ethos tyfu a gwerthu bwyd eich hun wedi chwyldroi ein blaenoriaethau siopa. Mae dull rhagweithiol i wrthdroi materoliaeth a masnacheiddiwch yn golygu nad yw bobl dosbarth gweithiol bellach yn gaeth i weithio er mwyn bwydo’r trap arian. Mae yna swyddi newydd sydd yn cynnal ein hasesiadau cymunedol. Mae’r sgiliau i sicrhau’r swyddi hyn yn wedi cael ei ddarparu trwy amgylcheddau dysgu ymarferol sydd yn hyfforddi pobl ifanc i ddefnyddio’u dychymyg a chreadigrwydd gyda dysgu ymarferol. Nid yw’r bobl oedd yn ddiffyg y sgil i chwydu ffeithiau bellach yn teimlo’n israddol. Mae gwerthfawrogiad i bawb, gyda rhywbeth i’w gynnig a rhan i’w chwarae yn harmoni’r gymuned.
Comments are closed.