Fy enw i ydy Mair Jones ac rwyf yn Gyfarwyddwr/Rheolwr Prosiect MaryDei, busnes menter gymdeithasol yn y gymuned yn Sir Ddinbych. Ei fwriad ydy codi ymwybyddiaeth o hawliau ac anghenion gofalwyr teulu ac i eirioli ar eu rhan. Sefydlais y fenter 7 mlynedd yn ôl gyda’m chwaer ac rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflinedig ers hynny i sicrhau hyder y gymuned mewn dull sydd yn cael ei arwain gan brofiad a chyfoed. Mae’r math yma o ddull datblygu cymunedol yn waith caled ac yn aml yn araf yn ei gynnydd amlwg. I feithrin yr hyder yma rydym wedi bod yn mynd allan i’r gymuned, yn eu cynnwys, eu hysbysu a’u diddori weithiau. Rydym wedi llwyddo i fagu hyder ydym ac wedi dangos bod y model Mary Dei – gwaith cymunedol, llawr gwlad, yn cael ei arwain gan ofalwyr – yn gweithio.
Mae ein presenoldeb gweithgar a’n diweddariadau ar gyfryngau prif ffrwd a chymdeithasol yn golygu bod ein bwriad yn cael ei rannu’n bositif. Rydym wedi llwyddo cyrraedd gofalwyr ‘cudd’, yn eu hysbysu, eirioli ar eu rhan ac yn eu cynnwys yn ein gweithgareddau creadigol. Mae’r ffaith ein bod ninnau fel Cyfarwyddwyr Mary Dei wedi bod yn ofalwyr llawn amser ein hunain, a’n bod yn ddwyieithog ac yn deall cyd-destun a diwylliant Sir Ddinbych, wedi bod o fudd i ni wrth wneud cysylltiadau o fewn ein cymuned a chyrraedd y gofalwyr cudd. Penderfynodd MaryDei gymryd rhan gydag Adfywio gan ein bod yn deall natur ein cymunedau yma yn Sir Ddinbych. Rydym yn deall yr heriau sydd yn wynebu’r rhai sydd yn cynnal menter gymunedol. Rydym yn credu yng ngallu grwpiau llawr gwlad i wneud gwir wahaniaeth a chreu datrysiadau lleol cynaliadwy i’r heriau newid hinsawdd.
Beth yw atyniad y math yma o waith ac/neu sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i gymryd y camau cyntaf i weithredu yn y gorffennol?
Mae fy mhrofiad yn gadarn yn y maes gofal cymdeithasol, yn gweithio gyda phlant bregus a theuluoedd mewn angen yn Ynys Môn a Gwynedd ers dros 20 mlynedd. Er i mi dderbyn hyfforddiant fel gweithiwr cymdeithasol statudol, rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn cefnogi unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol i greu datrysiadau eu hunain i’w hanghenion penodol nhw. Hyd yn oed fwy gyda phobl ifanc a chymunedau sydd yn cael eu ‘hystyried’ yn draddodiadol fel rhai sydd wedi cae eu heithrio o’r brif ffrwd.
Bu i mi adael rheng flaen gwaith cymdeithasol yn y 90au cynnar a sefydlu gwasanaeth ymgynghorol eirioli a hyfforddi fy hun, yn gweithio gyda theuluoedd a grwpiau cymunedol. Mae fy mlynyddoedd fel actifydd heddwch a chyfiawnder pan oeddwn i’n byw yng Ngwynedd yn golygu fy mod i wedi dod ar draws sawl amgylcheddwr angerddol. Roeddwn yn gallu mynychu amrywiaeth o ddarlithoedd a seminarau ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd hyn i agor fy llygaid i ba mor ddifrifol oedd newid hinsawdd a’r heriau rydym yn ei wynebu. Sylweddolais bryd hynny, bod galluogi cymunedau i feddwl am flaenoriaethau a datrysiadau eu hunain yn elfen hanfodol o unrhyw ddatrysiad cyffredinol. Astudiais gwrs ôl-radd mewn Datblygiad Cymunedol ym Mhrifysgol Bangor.
Daeth cynlluniau/gweithgareddau fy nyfodol yn amherthnasol wrth i mi orfod dychwelyd adref i Ddinbych i ofalu am fy rhieni a’u hanghenion iechyd sylweddol yn llawn amser. Y cyfnod yma oedd un o’r rhai mwyaf heriol i mi’n bersonol, ond hefyd yn gyfnod mwyaf hunangyflawnol i mi. Rwyf wedi defnyddio llawer iawn o’m mhrofiadau o’r cyfnod yma i ddatblygu ein busnes menter gymdeithasol.
Comments are closed.