Martin Kemp ydw i, ac rwy’n rhedeg micro-fenter gymdeithasol Moral I.T. C.I.C. sydd yn archwilio ac yn adeiladu dyfodol cynaliadwy. Rydym yn gwneud hyn gydag ymchwil a datblygiad busnes. Maes ymchwil cyfoes yw’r defnydd o dechnolegau digidol datblygedig i helpu i drosglwyddo i ddyfodol carbon isel ac arloesi systemau i alluogi modelau busnes arloesol pwrpasol. Rwy’n darparu cymysgedd o sgiliau busnes a’r amgylchedd, gan gynnwys Marchnata (B.A.) ac astudiaethau amgylchedd ac ynni uwch (MSc) gyda phrofiad profedig o integreiddio T.G. o unig fasnachwyr i gorfforaethau. Rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar newid hinsawdd trwy gwmnïau bach, grwpiau cymunedol ac elusennau ers 2006. Rwy’n awyddus i gynyddu ar y llwyddiant yma ac wedi bod yn ffodus i dreulio sawl blwyddyn yn ymchwilio, gan gynnwys datblygu cwrs meistr ar astudiaethau ynni uwch a’r amgylchedd a bod yn gyfarwyddwr ymchwil Prydain Sero Carbon. Mae ymchwil barhaus yn helpu gyda mewnwelediad ac yn cyfuno gyda darlithio ar lefel meistr gan gynnwys yn y Ganolfan Technoleg Amgen. Ar ôl gweithio yn y maes datblygu rhanbarthol ar gyfer cynaliadwyedd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Manceinion Fwyaf, roeddwn yn falch iawn o glywed bod Adfywio Cymru yn gweithio i nodau a ffocws tebyg yn y sector gymunedol yn ôl yng Nghymru.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Rwy’n bwriadu cael yr effaith fwyaf bosibl ar newid hinsawdd. Mae rhannu gwybodaeth, profiad a sgiliau mewn ffordd strwythuredig, gyda sefydliadau sydd ei angen ac sydd yn aml yn cael trafferth cyrraedd hynny, yn gyfle gwych i gael effaith. Ar fy nghwrs meistr, daeth grŵp ohonom yn sefydliad i helpu ‘ailosod datblygiad’, gan ymgorffori cynaliadwyedd i mewn i arferion datblygu rhyngwladol. Bwriad hyn oedd helpu mwy o bobl gyda chyllid cymorth gyfyngedig, yn rhoi grym i bobl i adeiladu cartrefi eu hunain a darparu gwaith ystyrlon tra hefyd yn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn helpu grŵp ailgylchu plastig ym Manceinion, yn uwchgylchu gwastraff plastig yn gelf a nwyddau defnyddiol. Cynhaliwyd gweithdai i gyflawni hyn sydd hefyd yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn caniatáu i sefydliadau gryfhau cydweithio ymysg eu gweithle. Yn ystod y pandemig COVID, rwyf wedi gweithio gyda sawl grŵp cymunedol, gan gynnwys cydlynu PPE yn y gymuned i sicrhau bod y rhai sydd yn amddiffyn ni hefyd yn cael eu hamddiffyn. Cydweithrediad torfol lleol yn seiliedig ar arfer gorau rhyngwladol.
Beth yw’ch gweledigaeth o’ch ardal erbyn 2050?
Defnyddiwyd yr hyn a ddysgwyd o COVID i osod amddiffyniad bywyd ac iechyd cyhoeddus yn ganolog wrth lunio polisïau Mae’n adeiladu ar werthoedd cynaliadwyedd Cymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol i barchu effaith COVID a’i osod ar lwybr llewyrchus a chynaliadwy.
Rydym wedi ymateb i’r her newid hinsawdd; yn darparu hinsawdd ddiogel, yn arbed miliynau wrth greu planed iach. Rydym yn byw bywydau iachach a hapusach sydd yn cefnogi’r gymuned, ac yn ei dro, yn creu cylchoedd rhinweddol.
Mae gennym economi gylchol sydd yn fio-ranbarthol, hwyliog a chynhwysol sydd yn gwasanaethu’r bobl a’r blaned.
Comments are closed.