Rydw i’n darparu cyfleoedd i alluogi pobl i fod tu allan yn cysylltu a’r byd naturiol. Dwi’n teimlo’n gryf fod angen cael cysylltiad a rhywbeth er mwyn eisiau edrych ar ei ol. Mae gen i radd mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol, rwy’n ymarferydd Ysgolion Fforest a hefyd yn weithiwr ‘chwarae’. Yn ystod fy ngyrfa rydw i wedi gweithio gyda:
- Asiantaeth yr Amgylchedd yn gorfodi cyfraith amgylcheddol,
- Groundwork – yn rhedeg prosiectau cymunedol yn y ganolfan addysg.
- ‘The Outlook Meadow’ a ‘Woodland’- yn cynnig sesiynau cefn gwlad i bobl o bob oedran
- Ar hyn o bryd rwyf wedi fy nghontractio i’r Country Trust, lle dwi’n gwneud ymweliadau i ffermydd ac yn rheoli tîm o gydlynwyr sy’n cynnig ymweliadau fferm i blant o ardaloedd difreintiedig.
- Rwy’n rhedeg sesiynau addysg amgylcheddol ag Ysgol Fforest yn ôl y galw.
- Rwy’n ymwneud a sawl prosiect o fewn fy nghymuned leol.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith neu sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol?
Drwy fy ngwaith gyda Groundwork roeddwn yn ymwneud a nifer o grwpiau cymunedol gwahanol – yn ymgynghori â nhw, yn eu galluogi nhw ac ar rhai achlysuron yn rheoli prosiectau ochr yn ochr â nhw. Ar bob achlysur mae’n bwysig i’r gymuned gael ‘perchnogaeth’ o’r prosiect ac iddyn nhw symud ymlaen a ffocysu’r prosiect yn ôl beth sy’n eu siwtio nhw.
Bues i am sawl mis yn Nicaragua yn gweithio gydag elusen o’r enw Nueveas Esperanzas,yn gweithio gyda chymunedau tlawd iawn sy’n byw ar losgfynyddoedd. Roedd y prosiectau yn amrywio o arbrofi dŵr yfed, adeiladu tanciau dwr i alluogi cyflenwad o ddŵr glanach i adeiladu heolydd i sicrhau trafnidiaeth ddiogel o avocados i’r farchnad!! Dysgais lawer am ganfyddiadau a llawer am sut mae pobl yn rhoi ‘pris’ gwahanol ar bethau.
Mae’n bwysig i wrando ar beth sydd angen/ eisiau ac yna i ddarparu cefnogaeth bwrpasol i alluogi i hynny ddigwydd. Efallai mai dim ond rhoi ongl wahanol i edrych ar bethau rydych yn gwneud, neu yn cysylltu â grwpiau a sefydliadau eraill neu yn cynnig syniadau am sut i ddechrau rhywbeth.
Beth yw’ch gweledigaeth o’ch ardal erbyn 2050?
Fy mreuddwyd….
Fod yr aer fod yn ffres, yr adar yn canu, plant yn chwarae, fod pawb yn gallu cael gafael ar fwyd iachus ac i’r patrwm bywyd maent yn dymuno heb unrhyw niwed i eraill nac i’r blaned.
Bydd gan bawb y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o effaith eu penderfyniadau a dewisiadau ar y blaned. Bydd y dewisiadau cywir yn hawdd ac yn fforddiadwy.
Yr amgylchedd fydd y meddwl cyntaf mewn pob penderfyniad. Bydd pawb yn sylweddoli pa mor hyfryd yw’r blaned ac eisiau gwneud eu rhan i’w fwynhau, ond I’w adael mewn gwell cyflwr i’r genhedlaeth nesaf.
Comments are closed.