Rwyf wedi gweithio fel dylunydd permaddiwylliant tirlun ac athrawes ers dros 20 o flynyddoedd. Cychwynnais fusnes tirlunio, Edible Landscaping (http://www.ediblelandscaping.co.uk) yn 2006. Fel dylunydd tirlun rwyf yn gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid, o ddeiliaid tai preifat i gymdeithasau tai, yn dylunio tirluniau cynaliadwy, cynhyrchu’n allanol, penodol i’r cleient, sydd yn cyfuno prydferthwch a swyddogaeth.
Dros y 14 mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn cyflwyno cyrsiau ar raglen Dysgu Am Oes Prifysgol Caerdydd (Dylunio eich Gardd Fwytadwy; Dylunio Gardd Gymunedol; Cwrs Dylunio Permaddiwylliant Llawn; a Garddio Permaddiwylliant Ymarferol). Rwy’n rheoli tyddyn bychan un acr sydd yn gynhyrchiol i’r cartref ond yn darparu hafan i fywyd gwyllt gyda thechnegau a dyluniad ar yr un pryd. Rwyf yn westeiwr gyda Wwoof a Workaway ac yn darparu llety, prydau a chyfleoedd hyfforddi i wirfoddolwyr sydd yn teithio o bedwar ban y byd yn gyfnewid am gymorth gyda’r ardd. Gyda chymorth y gwirfoddolwyr rydym yn cynhyrchu llysiau deiliog ar gyfer y cartref ac i fwyty lleol 12 mis o’r flwyddyn, ffrwythau am 10 mis y flwyddyn, llawer iawn o lysiau haf, coed ein hunain fel tanwydd a bambŵ i adeiladu a bwyta. Rydym hefyd yn cadw hwyaid ac ieir maes.
Rwyf yn gyfarwyddwr cwmni diddordeb cymunedol UpFront Gardens (ffurfiwyd yn 2016) ynghyd â Liz Court a Helena Fox. Lansiwyd prosiect tair blynedd yn Grangetown a Sblot yn 2018 wedi’i ariannu gan y loteri, Tyfu Sgwrs y Stryd. Ei fwriad ydy tyfu bwyd a chynyddu bioamrywiaeth mewn strydoedd trefol adeiledig wrth weithio gyda chymunedau’r stryd i ddatblygu gerddi blaen a chreu cysylltiadau rhwng cymdogion. Am wybodaeth bellach ymwelwch â – http://www.facebook.com/GST.TSyS.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
Rwyf yn mwynhau gweithio gyda phobl yn eu helpu i gyrraedd eu nod. Rwyf wedi helpu sawl grŵp dros y blynyddoedd i ddylunio gofodau awyr agored. Dyma ychydig o esiamplau:
- Gardd Marchnad Caerau – https://www.facebook.com/Caerau-Market-Garden-613304102077728/
- Planhigfa Coedwig Gymunedol Coeden Fach – https://coedenfach.org.uk/
- Gardd Gymunedol Chapter – https://www.chapter.org/community-garden
- Gardd Gymunedol Adamsdown – http://www.greencityevents.co.uk/case-studies/edible-adamsdown/
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050? Beth fydd wedi newid a sut rydym wedi cyrraedd y pwynt yma?
Hoffwn weld:
- Cysylltiadau cryf rhwng y grwpiau amrywiol yng Nghaerdydd a Chymru (gyda chorff/cyrff ymbarél o bosib) – yn arwain at ddefnydd mwy effeithiol ac effeithlon o amser unigolion a grwpiau
- Llawer o bobl yn tyfu ychydig o fwyd eu hunain ac/neu’n creu gofodau i fywyd gwyllt
- Cymunedau ac unigolion yn cael mynediad i dir i dyfu bwyd eu hunain os hoffant
- Nid oes y fath beth â diweithdra – mae gan bawb gwaith cyflogedig, cynaliadwy ac ystyrlon
- Llawer o fentrau cymdeithasol a gwyrdd yn darparu incwm a chyflogaeth
- Seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus gryf a chynaliadwy. Maent wedi stopio buddsoddi mewn ffyrdd newydd.
- Mwy o bobl iach a ffit sydd angen llai o fynediad i ofal iechyd adferol.
Comments are closed.