Fy nghyfrifoldeb i ydy helpu cryfhau sefydliadau gwirfoddol yng nghymunedau’r hen feysydd glo. Wrth i ni ymateb i’r angen mae ein gwaith yn amrywio cymaint â’r grwpiau rydym yn ei gefnogi. Fel ymateb i’r toriadau i wasanaethau cyhoeddus, mae rhan fawr o’n gwaith yn helpu i gefnogi sefydliadau sydd yn awyddus i gymryd ased (adeilad, tir neu wasanaethau) gan gorff cyhoeddus a helpu i gadw asedau o fewn cymunedau’r hen feysydd glo. Rwy’n defnyddio fy mhrofiad, gwybodaeth a rhwydweithiau i helpu cryfhau’r sefydliadau yma.
Yn aml wrth gefnogi grwpiau mae’n amlwg bod angen pecyn cefnogaeth amrywiol arnynt i wella’u cynaladwyedd, sydd yn aml yn cynnwys gweithredu ar newid hinsawdd. Mae Adfywio Cymru yn darparu adnodd sydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol a thechnegol i grwpiau ar newid hinsawdd, sydd yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sydd yn rheoli asedau ac yn edrych ar gwtogi costau ac allyriadau carbon, neu greu incwm o adnoddau adnewyddadwy, a dyma pam bod Ymddiriedolaeth Adfywiad y Meysydd Glo yn rhan ohono.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol i weithredu yn y gorffennol?
Cynt, roeddwn yn gydlynydd gydag Adfywio Cymru. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o grwpiau, yn ymdrin yn bennaf ag effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau cymunedol, ond hefyd yn cefnogi edrych ar ddichonoldeb datblygu gofod gwyrdd gyda chanolfan amgylcheddol ar safle Glofa’r Tŵr – sydd yn gyfredol.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Byddai symud oddi wrth ein gorffennol diwydiannol a chreu incwm wrth gynhyrchu a defnyddio technolegau adnewyddadwy a chyrraedd allyriadau carbon sero erbyn 2050 yn wych, yn creu Cymru lanach, wyrddach a chyfoethocach.
Comments are closed.