Mae gen i angerdd i sefydlu prosiectau gofod awyr agored cymunedol i gefnogi unigolion a grwpiau i wella’u hunain, a’r ardal. Rwyf yn defnyddio fy mhrofiad a’m nghysylltiadau i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei angen, bod hynny i dyfu bwyd, gwella iechyd corfforol a meddyliol, adloniant, rheoli cynefin bywyd gwyllt, cymunedau mwy cydlynol neu resymau eraill.
Mae gen i gefnogaeth darlithio arddwriaethol yn ogystal â phrofiad rheoli prosiectau a digwyddiadau, ymgynghori cymunedol, ymgysylltu gwirfoddolwyr, sefydlu cyrff cyfansoddiadol a chynnig arweiniad ar geisiadau am gyllid. Gallaf gynnig gweithdai, hyfforddiant a chyrsiau achrededig sydd yn helpu grwpiau i greu, dylunio, cynnal a rheoli eu gofodau agored. Rwy’n gallu cefnogi grwpiau i drefnu digwyddiadau ymgynghori cymunedol, cynorthwyo i gyrraedd ‘statws cyfansoddiadol’ a bod yn gyfrwng cyfathrebu i brofi syniadau. Mae gen i rwydwaith eang o gysylltiadau mewn sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sydd yn gallu darparu mynediad i amrywiaeth eang o adnoddau a chyfleoedd partneru bosib.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
O brofiad personol, rwyf yn ymwybodol sut gall ymdrochi yn yr amgylchedd naturiol fod o fudd i lesiant corfforol a meddyliol ar lefel unigolyn. Yn fy mhrofiad gydag amrywiaeth o grwpiau awyr agored, rwyf wedi profi sut mae dod â phobl at ei gilydd gyda bwriad cyffredin yn cyflwyno newidiadau cadarnhaol ar sawl lefel. Mae’n creu bond sydd yn ei hun yn creu cymunedau cryfach, mwy diogel, ac yn rhoi hwb i hunanhyder, lleihau unigrwydd cymdeithasol ac yn rhoi teimlad o gyflawni rhywbeth buddiol.
Yn fy swydd fel Swyddog Gofodau Cymunedol Gwyrdd Abertawe rwyf wedi cefnogi grwpiau wrth:
- Gysylltu gyda’r gymuned leol i ennyn cefnogaeth i brosiectau
- Cynnal sesiynau hyfforddi adeiladu a phlannu gwlâu uchel, dylunio a chreu blwch adar a sgiliau garddio, yn rhoi pwyslais ar ddulliau organig
- Cefnogi grwpiau i greu pwyllgor
- Trefnu a hyrwyddo digwyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â defnyddio posteri a thaflenni traddodiadol
- Defnyddio fy nghysylltiadau i gysylltu partneriaid posib
- Trefnu cyfleoedd Rhwydweithio i sawl un o’r grwpiau lleol yn Abertawe i rannu eu profiadau ac annog gweithgareddau traws grŵp.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae newid hinsawdd, tueddiadau demograffig, globaleiddio, technolegau newydd a chyllid cywasg yn rhai o’r prif heriau sydd yn wynebu cymdeithas.
Bydd cynnydd yn y ddibyniaeth ar gymunedau ac unigolion i gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau sydd yn cael ei gyflawni yn draddodiadol gan bobl ‘swyddogol’. Gwneir hyn er mwyn gwarchod a chyfoethogi ein cymdeithas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. I gyflawni hyn, bydd angen cefnogaeth ar fwy o grwpiau cymunedol gwirfoddol a chael yr adnoddau sydd ei angen i gyflawni’r nod.
Bydd manteisio ar gyfleoedd technolegol a chyflwyno datrysiadau lleol ar gyfer anghenion lleol yn lleihau’r ddibyniaeth ar gyrff allanol a’r rheolaeth sydd ganddynt, datblygu economïau gwydn a sicrhau cynaliadwyedd cymdeithas tymor hir .
Comments are closed.