Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn cyflwyno rhaglen ledled Cymru yn bresennol yn cefnogi prosiectau tyfu cymunedol wrth fentora a chynnal ymweliadau cyfoed i gyfoed. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod grwpiau, deall eu sefyllfa bresennol, creu cynllun o ble maent eisiau bod yn y tymor byr/canolig/hir, meddwl sut i gyflawni hyn gyda’n mentoriaid ac ymweld â phrosiectau tebyg (sydd wedi’u sefydlu eisoes). Mae’r rhaglen yma’n cynnwys llinyn addysg yn cyflwyno newid hinsawdd a chynaladwyedd, a chynnal digwyddiadau. Mae Ff&GC yn cyflwyno’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol (CLAS Cymru) sydd yn cefnogi grwpiau cymunedol i sicrhau caniatâd i gael mynediad at dir, gan gynnwys caniatâd i dyfu ar, neu reoli gofodau gwyrdd, rhandiroedd, a gerddi cymunedol.
Fi yw Rheolwr Cymru ac rwyf yn goruchwilio’r trosglwyddiad o 1 swyddog CLAS a 1 gweithiwr prosiect Tyfu Fynnu yn Ne Cymru. Mae Ff&GC yn awyddus i weithio gydag Adfywio i gryfhau a chyfnerthu’r gwaith partner sydd wedi’i gyflawni cynt.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
Rwyf wedi bod yn cefnogi grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymoedd Cymru dros y 14 mlynedd diwethaf, yn cefnogi datblygiad sawl grŵp cymunedol ac yn trosglwyddo datblygiad busnes i amrywiaeth o fentrau cymdeithasol bach. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi llawer o brosiectau amgylcheddol ac ailgylchu (gan gynnwys ailgylchu dodrefn), a gweithredu achrediadau amgylcheddol (gan gynnwys FSC, eco-ganolfan), a datblygu polisïau amgylcheddol/systemau rheoli amgylcheddol.
Mae fy swydd wedi cynnwys pob agwedd o redeg grŵp neu fenter gymdeithasol o ddydd i ddydd gan gynnwys polisïau, trefn lywodraethol, marchnata, ariannu, digwyddiadau, cyllid, hyfforddiant, ac rwyf wedi ysgrifennu a hwyluso cynlluniau busnes a strategaethau marchnata. Rwyf wedi rhoi cefnogaeth i “weithredu” mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynnal digwyddiadau i gyflwyno neges benodol a chodi ymwybyddiaeth, yn cyflwyno sesiynau blas i gysylltu â chyffroi cynulleidfaoedd newydd/potensial wirfoddolwyr, a chyflwyno hyfforddiant i rannu negeseuon cryf. Un esiampl wrth reoli elusen fach amgylcheddol oedd pan oeddwn yn cyflwyno gweithdai i ysgolion lleol ar gyfer wythnos gwyddoniaeth genedlaethol, yn cyflwyno dadl am ynni niwclear yn erbyn ynni adnewyddadwy, ac yn edrych ar dechnegau adeiladu effaith isel traddodiadol.
Rwyf hefyd yn hyfforddwr cymwysedig sydd wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau datblygiad personol, hyder a chyflogadwyedd i ddeall sut i ysgrifennu cynlluniau gweithredu a dysgu sydd yn SMART ac wedi’u teilwro.
Rwyf eisiau cymryd rhan gydag Adfywio i ehangu fy nghylch gwaith y tu hwnt i dyfu cymunedol ac i weithio gydag amrywiaeth eang o brosiectau a mentrau cymdeithasol i gefnogi prosiectau i ffynnu yn fy ardal. Rwyf hefyd yn angerddol am daclo newid hinsawdd ac mae gen i amrywiaeth eang o wybodaeth o’m mywyd personol am fyw’n fwy cynaliadwy a lleihau ôl troed carbon.
Beth yw’ch gweledigaeth o’r ardal rydych chi’n byw ac/neu’n gweithio ynddi yn 2050? Beth fydd wedi newid a sut byddem wedi cyrraedd y pwynt hwn?
Rwyf wedi gweithio ers blynyddoedd gyda Chadw Cymru’n Daclus ac wedi cymryd rhan mewn nifer iawn o ddigwyddiadau codi sbwriel yn fy ardal leol. Mae’n ymddangos fel bod tipio anghyfreithlon wedi gostwng ac mae ein parc lleol wedi derbyn statws Fflag Werdd yn cael ei gefnogi gan Grŵp “Ffrindiau” rhagweithiol iawn. Gyda’r awdurdod lleol yn lleihau ei reolaeth o ofod gwyrdd a chyfleusterau cymunedol oherwydd cyfyngiadau cyllid, gobeithiaf weld mwy yn cael ei roi i reolaeth gymunedol, a’r gofodau yma yn cael eu hadfywio ac yn derbyn cefnogaeth well gan y bobl sydd yn eu defnyddio. Gobeithiaf weld cyfnodau newydd o brosiectau addysg mewn ysgolion, yn debyg i Brosiect Pweru Cymunedau Cartrefi Melin sydd yn addysgu plant ysgol i ddiffodd goleuadau a chynilo pŵer yn gyffredinol, a mwy o bobl yn cael eu hannog i “dyfu bwyd eu hunain” a “phrynu’n lleol”. Gobeithiaf bydd y dêl Metro De Cymru a Rhanbarth Dinas Caerdydd yn buddsoddi’n well mewn trafnidiaeth gyhoeddus a bydd yna opsiynau mwy fforddiadwy i bobl yn hytrach nag teithio yn eu ceir i’r gwaith.
Comments are closed.