Mae Paul yn beiriannydd, yn drydanwr cymwys ac yn weithiwr ynni profiadol proffesiynol gyda chefndir Meistr mewn Cadwraeth a Rheolaeth Ynni.
Ers 1993 mae wedi bod yn gweithio’n hyrwyddo mentrau ynni cynaliadwy priodol. Yn ystod ei yrfa gynnar, bu’n gweithio gyda chwmni o ymgynghorwyr arbenigol ynni adnewyddadwy rhyngwladol, yn canolbwyntio ar gysylltu datblygiadau rhyngwladol gyda darpariaeth gwasanaeth ynni cynaliadwy. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn llawer mwy ymarferol, yn gyfrifol am reoli ar y safle gwasanaethau gosod paneli ffotofoltaidd ar adeiladau yn y DU yn bennaf.
Mae’n byw yn Solfach, Sir Benfro, ac yn Ymddiriedolwr gweithgar gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Tyddewi ac yn gwirfoddoli gyda Grŵp Gweithredu Ynni Lleol Penrhyn Tyddewi. Mae hefyd yn cefnogi Ynni Cymunedol yn Sir Benfro fel Aelod Gwirfoddol o’r Bwrdd.
Beth yw’r atyniad i’r math yma o waith?
Rwyf wedi bod yn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy ers cyfnod hir. Er bod gan lywodraethau a diwydiant rhan bwysig iawn i’w chwarae wrth drawsnewid i ddyfodol mwy cynaliadwy, mae’n amlwg bod yna rywbeth unigryw a gwobrwyol iawn am fentrau ar lawr gwlad. Mae’n gyffrous iawn tystio sut mae syniad da ac ychydig o unigolion brwdfrydig yn gallu plannu hadyn sydd yn trawsffurfio bywydau eraill mewn ffyrdd positif iawn.
Rydym wastad yn dysgu, ac yn gallu buddio o brofiadau eraill. Rwy’n gwbl ymwybodol o’r hyn rwyf wedi’i ddysgu o ddoethineb cyd-weithwyr a ffrindiau. Rwy’n gobeithio gallu rhannu fy mhrofiad yn yr un modd, a dysgu eraill i oresgyn heriau. Os yw hyn yn creu amgylchedd sydd yn cynorthwyo tyfiant a blodeuo’r hadyn yma, yna dwi’n gefnogol iawn ohono.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Rwy’n obeithiol, er yr ansicrwydd dearyddol-wleidyddol presennol ac ymdrechion gwaethaf y rhai sydd â buddiannau breintiedig, bydd y symudiad cynyddol yma am gyfrifoldeb hinsawdd yn trechu. Mae’n rhaid i ni greu economi, amgylchedd a chyfleoedd sydd yn annog pobl i fyw, gweithio a chwarae yma, pobl ifanc a hŷn. Mae’n ddibynnol ar gysylltiadau cryf o fewn, a rhwng, cymunedau.
Yn fy maes, mae gennym ffynonellau ynni naturiol helaeth, sydd yn gallu, a dylid, cael eu harneisio i gyflawni cydbwysedd ynni carbon net-sero, aer glân ac amgylchedd yn rhydd o lygredd. Rwy’n gweld generadiad ynni adnewyddadwy gwasgaredig a storfa ynni lleoledig wedi’i fewnblannu yn ein cymunedau, yn cefnogi trafnidiaeth integredig wedi’i bweru gan drydan gwyrdd a thanwydd hydrogen.
Comments are closed.