Fy enw yw Peter Anderson. Rwyf wedi bod yn datblygu offer digidol ac wyneb i wyneb i gael deialog ystyrlon gyda hapddalwyr. Mae ymgysylltu â phobl yn anodd, a threfnu gwirfoddolwyr yn gallu bod yn anoddach fyth. Mae ein tudalen Cynaliadwyedd yn amlinellu uchelgais i gynyddu’r dyblygiad o brosiectau amgylcheddol, cymdeithasol, ariannol gorau er mwyn i gymunedau lleol gael darganfod, addasu a dyblygu, llawer ohonynt sydd mewn cysylltiad â Adfywio Cymru eisoes.
http://about.vocaleyes.org/sectors/sustainability/
Gwybodaeth fwy cyffredinol yma: https://about.vocaleyes.org
Gweithgareddau diweddaraf yma http://blog.vocaleyes.org
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Roedd Ynni Sir Gâr angen cymorth i gysylltu â’u haelodau a’r rhai sy’n mynychu digwyddiadau. Cynhaliwyd sesiynau digidol ac wyneb i wyneb gyda’r rhai oedd yn bresennol oedd yn holi am syniadau ar sut i wella eu prosiect. Un o’r cwestiynau gofynnwyd oedd “Sut gall gwerthu cymaint o gyfranddaliadau â phosib?” Y syniad gafodd ei raddio uchaf gan y rhai oedd yno oedd i “Siarad gyda ffermwyr llaeth lleol”. Cyflawnwyd hyn y diwrnod canlynol ac roedd pawb yn falch iawn o glywed bod rhai o’r ffermwyr wedi prynu nifer sylweddol o gyfranddaliadau.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050? Beth fydd wedi newid a sut rydym wedi cyrraedd y pwynt yma?
Bydd pob cymuned wedi datblygu’r sgiliau a’r cynhwysedd i ymgysylltu mewn proses o ddarganfod, addasu a dyblygu’r prosiectau gorau sydd yn bodoli yng Nghymru a ledled y Byd.
Bydd gan bob cymuned cynllun gweithredu Newid Hinsawdd sydd yn diffinio’i map-llwybr i ddatblygu cynaliadwyedd, iechyd a gwydnwch.
Bydd allyriad carbon wedi gostwng i lefel cynaliadwy – llawer is nag 350ppm a byddem yn gwneud cynnydd da ar ein siwrne i leihau i lefelau cyn-ddiwydiannol.
Comments are closed.