Rwyf yn rheolwr prosiect ar liwt fy hun yn canolbwyntio ar gynaladwyedd, yr amgylchedd, addysg a gweithredu cymunedol. Gyda dros dri deg mlynedd o brofiad mewn datblygu prosiectau, gwaith strategol, addysg a rheoli digwyddiadau, mae gen i amrywiaeth eang o sgiliau a gwybodaeth mewn nifer iawn o ddisgyblaethau. Dros y mwyafrif o’r 25 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweithio gyda Fforwm Amgylcheddol Abertawe, fy sefydliad cynnal gydag Adfywio Cymru, ar sawl prosiect gwahanol. Y cyntaf o’r rhain oedd sefydlu’r Ganolfan Amgylcheddol yn Abertawe, lle roeddwn yn rheoli am bron i ddeg mlynedd (rôl dwi wedi dychwelyd iddi yn ddiweddar ar sail rhan amser, dros dro).
Cydlynais Strategaeth Amgylchedd cyntaf Abertawe, yn cyflawni adolygiadau eilflwydd a diweddariadau dros y ddeg mlynedd diwethaf. Rwyf yn cydlynu rhwydwaith Carbon Isel Bae Abertawe ac amrywiaeth o fforymau a phrosiectau eraill. Rwyf hefyd dan gontract i sefydliad arall gydag amrywiaeth o brosiectau, o gynhyrchu cyhoeddiadau neu baratoi cynlluniau busnes i gadeirio pwyllgorau neu gyflawni ymgynghoriadau cymunedol.
Credaf fod Adfywio Cymru yn cynnig model gwych i helpu sefydliadau cymunedol i rannu ymarfer da a datblygu ymateb positif i’r heriau o newid hinsawdd. Rwyf bellach yn gydlynydd i’r rhaglen Atebion Mentrus hefyd, sydd â strwythur a dull o weithio tebyg.
Dywedwch wrthym brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio.
Ymunais gydag Adfywio Cymru fel cydlynydd lleol yn fis Ionawr 2017. Un o’r prosiectau cyntaf i mi ei gefnogi oedd CUSP, sefydliad nid er elw sydd yn rhedeg parc sglefrio mewnol yng nghanol Abertawe. Roeddent yn awyddus i ddarganfod ffyrdd i leihau costau ynni tra hefyd yn chwarae eu rhan ar gyfer yr amgylchedd a helpu lleihau’r effaith roeddent yn ei gael ar newid hinsawdd.
Trafodwyd yr hyn roeddent yn awyddus i gyflawni a gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun gweithredu oedd yn cynnwys sut i leihau defnydd o ynni a gwella ailgylchu a rheoli gwastraff. Trafodwyd rhai o’u dyheadau hirdymor hefyd, fel gosod ynni adnewyddadwy a chynnal prosiect tyfu.
Trefnais gefnogaeth wirfoddol ymgynghorydd ynni profiadol fu’n eu helpu i ddeall y biliau ynni, eu cynorthwyo i newid darparwr ynni er mwy cael cytundeb gwell a dadansoddi eu defnydd o ynni. Roedd hyn yn cynnwys cyflawni archwiliad ynni a chynhyrchu adroddiad cynhwysfawr oedd yn adnabod rhai o’r mesuriadau gellir eu cymryd i leihau’r defnydd o ynni. Gwnaethant newidiadau syml fel gosod amseryddion i’r oergelloedd a defnyddio gwresogyddion mwy effeithlon. Ar ôl cydnabod mai’r goleuadau ym mhrif ardal y parc sglefrio oedd yn gwneud y defnydd mwyaf o ynni, rhoddais i nhw mewn cysylltiad â phrosiect oedd yn cynnig datrysiadau goleuo cost-effeithiol. Cyflwynais i nhw i fentor Adfywio Cymru gyda phrofiad goleuo hefyd, oedd yn eu cynorthwyo i archwilio opsiynau eraill.
Gan ddefnyddio fy nghysylltiadau o fewn tîm ailgylchu’r cyngor, trefnais gyfarfod i ail-negodi’r cytundeb casgliad gwastraff ac ailgylchu presennol a thrafod strategaethau gyda nhw ar sut i gynyddu ailgylchu ar y safle.
Roedd yn wobrwyol iawn cael gweithio gyda grŵp o bobl mor frwdfrydig a gallu cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim i’w cynorthwyo i symud tuag at ymarferiadau mwy cynaliadwy.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Byddai’n wych gweld ein hardal yn gweithredu’r Nodau Lles a’r Ffyrdd o Weithio’n effeithlon. Mae’n debyg byddai hyn yn creu ardal llawer mwy hunanddigonol yn ôl bwyd, ynni ayb gyda llai o lygredd a gwastraffu adnoddau fel y mae heddiw. Byddai yna werth, parch ac amddiffyniad i’r amgylchedd a’r adnoddau naturiol. Bydd pobl yn fwy cyfeillgar yn y trefi a’r dinasoedd a bydd cymunedau gwledig yn cael mynediad hawdd i wasanaethau a ddim yn teimlo’n ynysig. Ni fydd pobl yn gorfod teithio cymaint i weithio ac i gael gwasanaethau, a byddai unrhyw deithio yn cael ei wneud mewn ffordd fwy actif neu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Comments are closed.