Mae newid hinsawdd yn fater byd-eang a chredaf fod angen ymdrin â hyn ar lefel llawr gwlad. Mae cymunedau lleol bach ac/neu grwpiau yn le gwych i gysylltu. Gellir dangos iddynt fod posib cyflawni gwahaniaeth wrth newid ymarferiadau a bod hyn yn ei dro yn helpu’r amgylchedd lleol. Efallai bydd hyn yn sbarduno newid ar lefel cenedlaethol, ac ar lefel llwyfan rhyngwladol o bosib.
Fel Swyddog Datblygu Cymunedol AVOW, Cyngor Gwirfoddoli Sirol, rwyf yn cefnogi elusennau bach i ganolig ymhob agwedd o lywodraethu, o strwythurau cywir i uwchsgilio ymddiriedolwyr i reoli eu grwpiau gyda chyfanrwydd a thryloywder, yn gweithio’n agos i gyd-gynhyrchu er mwyn trosglwyddo mentrau cymunedol. Mae cynaladwyedd a newid hinsawdd i’r sefydliadau yma yn fater enfawr sydd yn ymofyn dull cydweithiol i sicrhau bod yr holl hapddalwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros ddyfodol pawb.
Beth yw atyniad y math yma o waith?
Mae fy mhrofiad a’m rhwydweithiau corfforaethol, statudol a’r trydydd sector yn canmol portffolio Adfywio i drosglwyddo cefnogaeth yn ymwneud â hinsawdd i sefydliadau’r trydydd sector yn Wrecsam.
Beth yw eich gweledigaeth o’r ardal rydych chi’n byw ac/neu’n gweithio ynddi yn 2050?
Mae gan Wrecsam gyfoeth o brofiad yn y maes ac mae angen gwneud defnydd ohono i’w wella fel lle i fyw a gweithio yn bresennol ac yn y dyfodol. Adfywio yw’r llwyfan i drosglwyddo’r mentrau hinsawdd yma gyda phartneriaethau cydweithiol a rhannu adnoddau.
Fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru ydy amgylchedd glanach, cynnyrch ffres yn cael ei dyfu a’i ddosbarthu’n lleol heb becynnu plastig, a llai o gerbydau ar y ffyrdd. Bod holl hapddalwyr yn gofalu am yr amgylchedd fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau a byw ynddo.
Comments are closed.