Rwy’n Gyfarwyddwr gydag Ynni Cymunedol Sir Benfro ac yn Rheolwr Gwerthuso ar gyfer yr elusen genedlaethol Credydau Amser Tempo. Roeddwn gynt yn Gyfarwyddwr gydag Ynni Sir Gâr ac yn eu cynorthwyo i redeg cynnig cyfranddaliad llwyddiannus i adeiladu tyrbin £1.4m yn y sir. Rwyf wedi bod yn rhan o ddatblygiad cymunedol ers dros 10 mlynedd, yn broffesiynol ac yn wirfoddol, ac wedi datblygu rhwydwaith dda o gysylltiadau dros y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae Ynni Cymunedol Sir Benfro yn rhan o Adfywio Cymru am eu bod yn rhannu’r un nodau: i gefnogi cymunedau i weithredu ar newid hinsawdd.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
Gweithiais gyda CCN i ddarganfod cyfleoedd ariannu er mwn cyflawni astudiaeth dichonoldeb a chreu deunydd marchnata. Cynorthwyais gyda cheisiadau cyllid i gronfa LEADER Sir Gaerfyrddin a chronfa Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Roedd y ddau yn llwyddiannus ac mae’r grŵp wedi cwblhau’r astudiaeth dichonoldeb ac wedi creu cyfres o ddeunyddiau newydd. Maent wedi parhau i gynyddu cefnogaeth a chynhwysedd lleol a bellach yn bwriadu gweithredu darganfyddiadau’r astudiaeth dichonoldeb.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Erbyn 2050 byddem yn byw yn fwy cynaliadwy yn yr ardal yma. Bydd ynni, trafnidiaeth a systemau bwyd cynaliadwy mewn lle yn defnyddio rhwydweithiau ac adnoddau naturiol ac yn cryfhau cymunedau. Bydd hyn yn cael ei hwyluso ar bolisïau a buddsoddiadau ar lefel cenedlaethol a lleol, ac yn cael ei gefnogi gan raglenni mentora cyfoed i gyfoed fel Adfywio Cymru ac Atebion Mentrus.
Comments are closed.