Cefais wybod am Adfywio Cymru oherwydd fy niddordeb yn y symudiad Trawsnewid a’r potensial i gymryd rhan a chynorthwyo grwpiau i gynnal a chynllunio’n bositif ar gyfer gweithred ystyrlon ar newid hinsawdd. I mi, roedd hyn yn fwy nag rhoi paneli solar ar y to, roedd angen edrych ar allu cymuned i archwilio’r problemau a’r potensial o ddatrysiadau hylaw bob dydd i weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i’r newidiadau strategol cymhleth a mawr iawn. I gyflawni hyn roedd angen adeiladu hyder, lefelau sgiliau, agor meddyliau i’r hyn sydd yn bosib a dod o hyd i’r bobl angerddol cywir, fel fi, fydda’n gallu mentora ac ysbrydoli eraill i gyflawni’u bwriad neu i gychwyn ar siwrne eu hunain o leiaf. Dyma ddaeth â mi at Pentrebane Zone, elusen leol yn cael ei arwain gan y gymuned yn un o ystadau cyngor mwyaf difreintiedig Cymru. Roeddwn eisiau rhoi popeth yr oeddwn i wedi’i ddysgu i waith a chefnogi fy nghymuned leol i wneud hyn dros eu hunain gyda datblygiad cymunedol, ymgysylltu a datblygu prosiectau ysbrydoledig. Dyma rydym ni yn ei wneud, a dyma rydym eisiau ei rannu gydag eraill. Y neges bod rhywbeth yn bosib a bod gennych chi’r gallu i ddylanwadu er gwell ar eich bywyd chi, a bywyd eich cymuned, wrth chwarae rhan dros yr amgylchedd a chymdeithas.
Dywedwch wrthym am un neu fwy o brofiadau yn eich gwaith gydag Adfywio.
Roedd myfyrwyr o Uned Cyfeirio Disgyblion Aberdâr eisiau datblygu gweithgaredd fydda’n ysbrydoli’r mynychwyr ifanc i gymryd diddordeb mewn bywyd a’r byd o’u cwmpas. Helpais iddynt archwilio’u diddordebau a’r hyn sydd yn eu hysgogi. Arweiniodd hyn at rywbeth ymarferol a digidol, ac o bosib hefyd datblygu i rywbeth sydd yn hyrwyddo dewisiadau bywyd iachach. Y syniad oedd creu mainc ddigidol, mainc sydd â phŵer troedlath neu bedal i bweru USB a gwefru ffôn a dyfeisiau symudol. Wedi ennyn diddordeb y bobl ifanc roedd rhaid darganfod mentor newydd i helpu’r grŵp gan nad oedd un yn bodoli ar gyfer prosiect mor arloesol. Rwyf bellach wedi darganfod y mentor cywir ar gyfer y gwaith a bydd hyn yn ehangu eu gorwelion ar gyfer posibiliadau eraill, o ddiwydiannau creadigol, dyfeisiau pŵer pedal, ffrydiau ynni amgen, sgiliau ymarferol newydd a’r hyder o weld syniad yn cael ei wireddu at y diwedd. Bydd y prosiect yma yn mynd yn fyw cyn hir.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Cymuned gysylltiedig sydd â’r diddordeb a’r amser i gefnogi ei hun i gynnal gweithgaredd cymunedol cynaliadwy. Mae’n gofalu am ofodau gwyrdd a phrosiectau tyfu bwyd ei hun sydd yn helpu bwydo a chefnogi iechyd a lles y gymuned ehangach. Bydd gofod gwair yn llai, wedi cael eu newid yn erddi ffrwythau, lliwiau, egni sydd yn ysbrydoli’r bobl i ryngweithio gyda nhw a threulio amser yn yr awyr agored yn cysylltu gyda natur, gwreiddiau bwyd ac, yn bwysicach fyth, ei gilydd ble byddant yn datblygu rhwydweithiau cefnogol ar gyfer cyfnodau o straen.
Bydd waliau gwyrdd i’r adeiladau yn y dinasoedd sydd yn bwydo ac yn darparu bioamrywiaeth ond hefyd yn glanhau’r llygryddion yn yr aer fel y gallem anadlu aer iachach a dioddef llai o straen o’r broses ddiwydiannol.
Comments are closed.