Rwyf yn wreiddiol o Langadog Sir Gâr ac yn y degawd diwethaf rwyf wedi bod yn rhan o brosiectau cymunedol, materion cynaladwyedd a’r sector ynni cymunedol, fel ymchwilydd, gwirfoddolwr, ymgyrchydd a chydlynydd. Gyda chyllid ymchwil, rwyf wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau sydd wedi codi ymwybyddiaeth o ynni cymunedol ac wedi datblygu’r nofel raffig cyntaf erioed am y sector (ynghyd ag adnoddau dysgu i ysgolion ledled Cymru): https://ticktockcommunityenergy.wordpress.com
Gyda phrofiad o ddatblygiadau ynni cymunedol yn Yr Alban, Iwerddon a ledled Cymru, rwyf bellach yn gweithio gydag Ynni Sir Gâr ar weithredu prosiect Ynni Lleol arloesol yn Llandysul a’r ardal. Mae Ynni Sir Gâr yn Gymdeithas Budd Cymunedol, yn gweithio gyda chymunedau i leihau costau ynni, dod i’r afael ar dlodi tanwydd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy glan, a chadw’r elw yn lleol. Maent yn berchen ar dyrbin gwynt 500kw wedi’i ariannu gan gynnig cyfranddaliadau cymunedol ac wedi trefnu gosod cynlluniau PV ar raddfa lai yn yr ardal. Rhai o’r mentrau eraill maent yn rhan ohonynt yw safleoedd Ynni Lleol arbrofol yn Sir Gâr ble gall preswylwyr lleol brynu trydan yn syth o gynllun ynni adnewyddadwy mae’r gymuned yn berchen arno, ac yn gweithio gyda Chynghorau Lleol a sefydliadau eraill yn yr ardal ar leoli strategol mannau gwefru a chynyddu’r defnydd o gerbydau trydan.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Grymuso cymunedau ledled Cymru yw’r prif reswm mae’r maes yma o waith yn apelio i mi, ynghyd ag awydd brwd i fod yn rhan o’r symudiad i weithredu ar faterion Newid Hinsawdd. Yn y gorffennol rwyf wedi gweithio gyda sawl grŵp ynni cymunedol, gan gynnwys Ynni Ogwen, Awel Aman Tawe a Chynllun Menter Ynni Cymunedol Abertawe (SCEES) i godi ymwybyddiaeth perchnogaeth y gymuned o brosiectau ynni adnewyddadwy, a sut i fynd ati i weithredu mwy o’r fath brosiectau. Rwyf yn gweithio ag Ynni Sir Gâr yn bresennol, i gyflawni’r fath bethau yn Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi ymweld â nifer o grwpiau ynni ledled Cymru, Yr Alban ac Iwerddon fel rhan o’m hanes ymchwil, i ddarganfod mwy am y ffordd maent wedi sefydlu eu hunain, y peryglon a’r buddiannau o ddatblygu’r fath brosiectau. Mae celf yn ddiddordeb arall i mi, a’r ffyrdd gall celf gyfathrebu materion cynaliadwyedd – a gyda chyllid ymchwil a chymorth sawl grŵp ynni cymunedol yng Nghymru, rwyf wedi datblygu adnodd dysgu ar ffurf nofel raffig, fel ffordd i annog dysgu am ynni cymunedol mewn ysgolion.
Rwy’n gobeithio helpu llawer mwy o bobl gydag Adfywio Cymru i gofleidio’r posibiliadau o gymryd cyfrifioldeb dros ddyfodol eu cymunedau, yn enwedig wrth sylweddoli potensial mesuriadau ynni adnewyddadwy ac effeithiolrwydd ynni i frwydro tlodi tanwydd, creu economïau lleol cadarn a chreu llefydd a gofodau gwell i fyw.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Byddwn wrth fy modd yn gweld llawer mwy o esiamplau o’r gymuned yn berchen, ac yn datblygu, prosiectau ynni adnewyddadwy yn fy ardal i yn Ne-orllewin Cymru, yn sicrhau bod pobl leol yn buddio’n uniongyrchol o’r sector ynni adnewyddadwy gwasgarog. Bydd tlodi tanwydd wedi diflannu. Bydd y rhwydwaith rheilffyrdd wedi cael ei drydaneiddio a cheir trydan fydd y norm. Erbyn 2050 bydd fy mab yn 33 oed – rwyf yn gobeithio bydd ein hardal o Gymru wledig yn le ffyniannus iddo fyw erbyn hynny – gan ymarfer holl bileri cynaliadwyedd bydd hyn yn arwain at economi lleol cynhwysol a theg, amgylchedd naturiol iachus, cymdeithas ofalgar ble mae’r iaith Gymraeg wedi ei hadfer, yn cael ei pharchu, ac yn ased diwylliannol ac economaidd yn yr ardal.
Comments are closed.