Fel sefydlydd a chyfarwyddwr marchnad lwyddiannus Glanyrafon, Caerdydd, mae gen i ugain mlynedd o brofiad yn rhedeg menter gymdeithasol bwyd lleol, sydd yn cyfrannu at economi bwyd cynaliadwy. Teimlaf fod Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon wedi cyfarfod amrywiaeth eang o anghenion cymunedol a busnesau bach sydd yn ymwneud â bwyd, mewn ffyrdd uniongyrchol ac ymarferol. Yn darparu cynhyrchwyr lleol raddfa fach gyda’r cyfle i fasnachu’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd. Yn rhoi mynediad i gynnyrch fforddiadwy, ffres i bobl leol yn cael ei werthu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr Cymru. Popeth mewn lleoliadau ble gellir datblygu syniadau busnes ffres sydd yn ymwneud â bwyd fel atyniad sydd yn tynnu pobl newydd i’r ardal. Yn cyfrannu i adfywiad cymdeithasol ac economaidd a helpu i greu synnwyr o gymuned leol.
Mae Marchnad Glanyrafon yn fodel o fenter gymunedol ddichonol ariannol gellir ei ailadrodd. Mae’n cyfarfod nodau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, a hefyd yn cynnig rhaglen o weithgareddau addysgiadol fydd yn ymateb i anghenion a diddordebau pobl yn ogystal â hyrwyddo byw yn gynaliadwy. Mae llywio tyfiant a datblygiad Marchnad Glanyrafon fel menter gymdeithasol gynaliadwy wedi bod yn rhan bwysig iawn o fy mywyd ers bron i ugain mlynedd. Rwyf wedi magu diddordeb angerddol am faterion sydd yn ymwneud â thyfu bwyd yn lleol a’r rhan gall ein menter gymdeithasol ei chwarae wrth gysylltu pobl gyda’r materion ‘darlun mawr’ sydd yn ymwneud â chynaladwyedd dyfodol Cymru a’r byd ehangach.
Beth yw atyniad y maes yma o waith a sut ydych chi wedi helpu grwpiau cymunedol yn y gorffennol i gymryd y camau cyntaf i weithredu?
Mae gen i dros ugain mlynedd o brofiad yn rhedeg menter gymdeithasol bwyd lleol llwyddiannus sydd yn cyfrannu at economi bwyd cynaliadwy ein prifddinas. Yn ogystal â llywio Marchnad Glanyrafon i ddod yn un o farchnadoedd ffermwyr mwyaf Cymru, roeddwn yn gyfrifol am gychwyn sawl gweithgaredd deilliedig, fel:
- Sefydlu pedwar marchnad ffermwyr arall yng Nghaerdydd
- Goruchwilio gweithgareddau addysg ac ymestyn allan RCMA
- Cyd-ysgrifennu ‘Pecyn Gwaith Marchnad Ffermwyr Trefol
- Cefnogi grŵp o ferched lleol i sefydlu Cydweithredfa Bwyd Glanyrafon
- Sefydlu Gardd Gymunedol Glanyrafon
- Datblygu prosiect Gardd Marchnad RCMA – menter gymdeithasol gyda pherchnogaeth gydweithredol sydd yn tyfu cynnyrch organig ardystiedig i werthu i breswylwyr a bwytai, ac yn darparu hyfforddiant mewn garddwriaeth organig
Rwyf wedi bod yn gyfrifol am ddyfeisio a chyflwyno amrywiaeth eang o raglenni ymestyn allan ac addysgiadol, gyda’r bwriad o gyflwyno pleserau a buddiannau prynu, paratoi a bwyta bwyd lleol ffres i amrywiaeth eang o breswylwyr Caerdydd, yn enwedig y rhai sydd yn byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn y ddinas.
Mae’r gwaith yma wedi cynnwys: rhaglenni ymestyn allan i ysgolion, gan gynnwys creu gerddi ysgol; trefnu ymweliadau fferm i blant; cyflwyno cyfres o ddosbarthiadau coginio’n iach i amryw grŵp cymunedol; rhaglen beilot ‘siop gornel iachus’. Arweiniais ar greu a lansio Siarter Bwyd Caerdydd ac rwy’n un o sylfaenwyr Cyngor Bwyd Caerdydd.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Mae cynhyrchu, prosesu a rhannu ‘bwyd prif lif’ yn gyfrifol am gynhyrchu llawer iawn o nwyon tŷ gwydr. Wrth gyfrannu at ddatblygiad cadwyn bwyd sydd yn fwy lleol i Gaerdydd, gobeithiaf gyfrannu at gynaladwyedd prifddinas Cymru. Gall hyn gyfrannu at ddylanwadu diwylliant bwyd gweddill y wlad. Wrth fentora a chynnig cyngor gobeithiaf y gallaf fod yn fwy effeithiol yn newid ymddygiad pobl, fel unigolion ac aelodau sefydliadau, a dangos iddynt yr holl ffyrdd y gallant ymddwyn yn fwy cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu Cymru i gyrraedd pwynt lle gellir hawlio ei fod yn arweinydd yn y byd, yn creu economi sydd yn wir gynaliadwy sydd yn gwerthfawrogi creadigrwydd a hapusrwydd pobl yn ogystal â defnyddio’r mesuriad cyfyngedig o’u cyfraniad tuag at CMC.
Comments are closed.