Rydw i yn weithiwr yn y gymuned ac yn gadwriaethydd. Rwyf hefyd yn fardd, yn rhiant ac yn famgu! Mae gennyf cefndir mewn reolaeth cefn gwlad ac wedi gweithio fel ‘ranger’ yn Nghogledd Cymru, yn ogystal a chefnogi sawl rhaglen sy’n helpu rhywogaethau prin i adennill. Rydw i’n cydlynu materion Adfywio Cymru yng Nghogledd Powys fel ffordd o leihau effaith newid yn yr hinsawdd yn fy ardal i, gyda help fy sefydliad lletya, Banc Cymunedol Robert Owen yn Nhrenewydd.
Beth yw atyniad y math yma o waith?
Rwyf wastad wedi mwynhau helpu pobl i ddod at ei gilydd ac wrth fy modd gyda chefn gwlad Cymru. Teimlaf yn amddiffynnol o’r dirwedd hon ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio yn Sir y Fflint – gwireddais fy mreuddwyd wrth symud i fwthyn bach mewn pentref Gymraeg ei hiaith yn ne Eryri 2 flynedd yn ôl. Rwyf eisiau amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd sydd yn ein cynnal a gwella’r amodau lleol ar gyfer byw’n iach.
Yn y gorffennol rwyf wedi cefnogi gwaith datblygiad cymunedol gyda chymunedau o ddiddordeb – grwpiau o ferched, preswylwyr ward cymdogaeth, pobl ifanc a chadwraethwyr. Mae yna ffocws amgylcheddol wedi bod i’m holl waith cymunedol – bod hyn yn amddiffyn cynefinoedd neu ansawdd aer, neu arbed ynni a chostau, neu gefnogi bwyd lleol a swyddi i bobl ifanc hyd yn oed. Mae’r camau cyntaf fel arfer yn ymwneud â chael trefn a chreu rhwydweithiau, ac yn tynnu cefnogaeth arbenigol i mewn i’r grwpiau yn gynnar er mwyn troi breuddwydion yn realiti. Yn aml mae’r arbenigedd yma yn anodd iawn i’w ganfod, neu ei drefnu, a dyna pam rwyf yn edmygu gwaith Adfywio Cymru.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
- Bydd ffermio yn cael ei arallgyfeirio i ddarnau llai o dir yng Nghanolbarth Cymru gyda budd i fywyd gwyllt. Bydd dulliau ffermio dwys (ieir, wyau, defaid, gwartheg cig eidion a llaeth) yn ddim ond atgof. Bydd pobl leol yn gwirfoddoli ar ffermydd lleol i gynhyrchu bwyd lleol. Bydd cyflogwyr yn rhyddhau pobl o’u gwaith, gyda thâl, i wirfoddoli.
- Bydd yna fwy o orchudd coed llydanddail yng Nghanolbarth Cymru a llai o ddigwyddiadau llifogydd ac ansawdd aer gwell.
- Ceir pŵer-adnewyddadwy ar y ffyrdd fydd y norm. Bydd yna rwydwaith o bwyntiau gwefru hawdd i’w cyrraedd sydd yn annog pobl i gymdeithasu a siopa, neu weithio hyd yn oed, tra byddant yn gwefru’r car.
- Bydd gan bobl fynediad at fwydydd lleol, trafnidiaeth aml-foddol a mwy o amser i gymdeithasu wyneb i wyneb. Byddant yn byw bywydau iachach gyda llai o straen a gwell rhwydweithiau o gefnogaeth.
Comments are closed.