Rwyf yn Swyddog Gweithredol Tir Coed. Rydym yn fenter gymdeithasol a thrwy wirfoddoli, addysgu, hyfforddi a chynnal gweithgareddau pwrpasol rydym yn cysylltu pobl gyda choetiroedd ac yn cynyddu llesiant, datblygu sgiliau ac yn gwella coetiroedd er budd pawb. Golygai hyn ein bod yn gysylltiedig â nifer eang o brosiectau, gwasanaethau a rhwydweithiau o hyfforddiant achrededig i bresgripsiynau cymdeithasol, cadwraeth a rheoli coetiroedd i ddatblygiad cymunedol ac ysgolion. Mae fy swydd yn un eang iawn ac yn defnyddio profiad datblygiad cymunedol cynaliadwy, rheolaeth prosiect, gweithgareddau awyr agored, datblygiad gwirfoddoli, ymchwil a gwerthuso, ysgrifennu masnachol, polisi, addysg a chodi arian. Mae Tir Coed yn sefydliad llawr gwlad, wedi’i ddatblygu’n lleol ar gyfer pobl ddifreintiedig yng Ngorllewin Cymru wledig. Ar ôl 20 mlynedd rydym yn awyddus i rannu ein profiad, i ddysgu gan eraill, datblygu’n fasnachol a chyfarfod sefydliadau newydd i weithio â nhw. Rwyf wedi astudio MA Damcaniaeth Feirniadol, meistr ymchwil a PhD o Brifysgol Cymru.
Beth yw atyniad y maes yma o waith?
Mae bod yn rhan o newid positif yn ysgogi; yn gweld cymunedau, grwpiau ac unigolion yn datblygu’r gwydnwch i leddfu a gwrthsefyll effaith newid negatif (e.e. hinsawdd, economi, iechyd corfforol a meddyliol, disbydda adnoddau, disbydda rhywogaeth a chynefin). Mae llawer o’r hyn sydd ei angen eisoes yn bodoli, wedi’i fewnblannu mewn cymunedau; er esiampl, y ffordd mae’r gymuned ffermio yn rhannu adnoddau, cefnogi cymdogion a busnesau lleol mewn ardaloedd anghysbell gwledig; neu’r ffordd mae cynulleidfaoedd y capeli yn sicrhau bod y bobl sydd angen cefnogaeth, fel gofalwyr, yn ei dderbyn heb angen diolch; a gwybodaeth – e.e. tyfu bwyd, cadw, adeiladu traddodiadol, ymarferiadau rheoli tir – gellir rhannu’r rhain rhwng y cenedlaethau.
Rwyf wedi cefnogi grwpiau cymunedol yn y meysydd canlynol o ymgynghoriad cyhoeddus, i’r camau llywodraethu, cynllunio, codi arian, marchnata, dosbarthu, adrodd a gwerthuso: trafnidiaeth gymunedol, gerddi cymunedol, cerdded a beicio cymunedol, dehongliad treftadaeth, adeiladu treftadaeth, cyfeirio ymarfer corff/iechyd awyr agored, Bwyd Araf, twristiaeth gymunedol gynaliadwy, brandio/marchnata lleol, cyfnewid rhwng y cenedlaethau, gofal cymunedol, prosiectau addysg a hyfforddiant, prosiectau gwirfoddoli.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Gweledigaeth Tir Coed yw cymunedau cefn gwlad ffyniannus a chynaliadwy wedi cyfuno â’r amgylchedd naturiol.
Llwybr i newid cynaliadwy: cymunedau wedi’u hail-leoli a’u hail-hegnïo wedi’u grymuso i ddatrysiadau cartref sydd yn amddiffyn y byd naturiol; addysg a gofal rhywogaethau a chynefinoedd; dibyniaeth lai ar danwyddau ffosil wrth ddatblygu ffynonellau adnewyddadwy a chynlluniau ynni yn cael eu cefnogi gan y gymuned; treuliant llai o lawer a gwrthwynebiad i’r awydd i deithio’n rhad, bwyta’n rhad a phrynu’n rhad – nid oes datrysiadau rhad os yw’r byd yn dioddef.
Byddem yn cyflawni hyn wrth: weithio â’n gilydd, dysgu o’r gorffennol a’n llwyddiannau ni ac eraill – a’r methiannau; rhannu sgiliau treftadaeth a thechnolegau newydd; trwy adnabod cydgysylltiad cyfarwydd y byd naturiol gydag iechyd a chyfoeth dynol.
Comments are closed.