Rwyf yn gyfarwyddwr ac yn brif dyfwr gyda Cae Tan, sef amaethyddiaeth yn cael ei gynnal gan y gymuned ar Benrhyn Gwyr. Rydym yn tyfu bwyd ar gyfer 125 o gartrefi, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ac yn cynnal hyfforddeion, ac yn gweithio gydag ysgolion, colegau a phifysgolion- pob un yn codi ymwybyddiaeth o fuddiannau ffermio cynaliadwy lleol ar raddfa fach. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau cenedlaethol i hybu cynhyrchiant bwyd cynaliadwy.
Dywedwch wrthym am brofiad yn eich gwaith gydag Adfywio…
Mae fy ngwaith gydag Adfywio Cymru yn gyffredinol wedio golygu cefnogi rhai newydd sy’n dod i’r maes yma neu grwpiau sy’ eisoes yn tyfu. Er enghraifft, rwy’ wedi bod yn cefnogi grwp yn Sir Benfro i ddatblygu cynllun tyfu mwy cadarn drwy’r flwyddyn. Ond hefyd wedi gweithio gyda grwp yn nghanol dinas Caerdydd i weld sut allen nhw defnyddio mannau bach mewn maint i ddenu pobl i dyfu. Gall fod yn amrywiol iawn – sy’n wych!
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Bydd Cymru yn hunan-gynhaliol o safbwynt ffrwythau a llysiau sylfaenol, a bydd yn allforio i weddill y DU gan fod gennym lawer o dir ond poblogaeth llai. Bydd cynfas Cymru drefol a chefn-gwlad yn fwy amrwyiol yn y defnydd o tir a byddwn yn gweld llawer mwy o bobl a diddordeb mewn tyfu bwyd. O ganlyniad bydd diet, ymarfer corff a lles iechyd wedi gwella yn sylweddol.
Comments are closed.