Rwyf yn gweithio gyda’r Cwmni Budd Cymunedol Menter Mynyddoedd y Cambria (cbcMMC) yng Nghanolbarth a De Powys yn bennaf, ond os oes angen mynd dros y ffin i rannau o Geredigion ble mae cbcMMC yn gweithredu, byddaf yn gwneud hynny. Yn dilyn sawl blwyddyn fel cyfarwyddwr cbcMMC rwyf bellach yn helpu gyda pholisi sefydliadol. Maer MMC yn gweithio wrth gydweithredu, cydweithio a rhwydweithio i alluogi datblygiad busnes, annog cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, datblygu’r adnabyddiaeth o Fynyddoedd y Cambria fel rhywle amlwg ac arbennig ond gan fwyaf, i archwilio dulliau arloesol tuag at ddatblygiad cynaliadwy.
Mae cysylltiadau cryf rhwng dyheadau Adfywio a nifer o amcanion cbcMMC i barhau gyda gweithgareddau sydd yn buddio cymuned Mynyddoedd y Cambria:
- Gweithio gyda chymunedau, cynhyrchwyr lleol, darparwyr twristiaeth ac eraill i gefnogi datblygiad cymunedau gwledig cynaliadwy
- Cynnal yr amgylchedd naturiol, yr amgylchedd adeiladol a threftadaeth yr ardal
- Galluogi darpariaeth gwasanaethau ecosystem er budd y gymdeithas ehangach wrth ddiogelu carbon yn y pridd, gwell storfeydd ac ansawdd dŵr, rheoli llifogydd a darparu cyfleoedd i fwynhau’r cefn gwlad
- Hyrwyddo’r safonau uchaf o reolaeth tir o fewn ardal Mynyddoedd y Cambria
Beth yw atyniad y math yma o waith?
Rwyf yn dda yn cael at y materion sydd yn bwysig i bobl a’u helpu i feddwl am ddatrysiadau. Mae fy nghryfderau wedi selio ar fy ystod eang o brofiad. Mae’n fantais fy mod yn gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac yn rhedeg busnes fy hun. Mae gen i brofiad o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd, gyda diddordeb mewn cynaladwyedd gwledig. Rwyf wedi cefnogi datblygiad cyfleusterau amlbwrpas, wedi annog ymglymiad y gymuned gyda chynllunio strategol, cynlluniau gweithredu lleol a gwerthusiadau pentref.
Mae gyrfa mewn datblygiad cymunedol yn golygu bod yn ymwybodol o brosiectau cyfredol a rhai’r gorffennol – credaf mewn rhannu profiadau eraill i ysbrydoli syniadau. Mae gen i brofiad ymarferol o sefydlu grwpiau, rheoli a hyfforddi grwpiau ac unigolion. Gyda phrofiad o werthuso a diddordeb mewn gweithredu wedi’i selio ar ganlyniadau, golygai fy mod yn dda yn gweld y darlun llawn – yn aml mae gweithio gyda chymunedau yn ymwneud â chysylltu’r dotiau – sut gall gweithredu lleol wneud gwahaniaeth – efallai nad ymateb i newid hinsawdd ydy ffocws cyntaf cymuned, ond mae posib cysylltu canlyniadau gweithred i ddechrau gwneud gwahaniaeth. Rwyf yn awyddus i gynorthwyo wrth adeiladu ar gryfderau lleol ac annog meddwl dargyfeiriol.
Beth yw eich gweledigaeth o’ch ardal yn 2050?
Erbyn 2050 hoffwn os byddai siarad am y peth wedi dod i ben, a’n bod yn byw bywydau carbon isel. Nid oes angen gweledigaeth ranbarthol, nid problem ranbarthol yw hon, mae’n broblem fyd-eang. Efallai nad yw targedau presennol yn ymestyn digon i rai pobl, ond maent yn bodoli – felly beth am stopio’r siarad â’r cynlluniau a chychwyn arni.
Byddai dealltwriaeth well o sut mae’r pethau rydym ni’n ei wneud yn effeithio ar bethau nawr, ac amlygu’r effaith byddem ni’n ei gael yn y dyfodol. Efallai gallem gyrraedd yno wrth sicrhau bod gan bawb ymwybyddiaeth fel rhan o fywyd dydd i ddydd – gall addysg ysgogi ac actifadu.
Comments are closed.