Mae 29 o grwpiau ledled Cymru wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £295,952 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wneud gwelliannau bach yn eu cymunedau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae Adfywio Cymru yn rhan ohono.
Mae’r grantiau’n rhan o beilot yng Nghymru i gefnogi prosiectau presennol y Loteri Genedlaethol i weithredu yn eu cymunedau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd y gwaith a fydd yn cael ei wneud gan gymunedau trwy’r peilot yn dylanwadu ar sut mae’r Gronfa’n gweithio’n ehangach ledled y DU yn y dyfodol.
Y llynedd, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod yn ymrwymo £100 miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae’r grantiau yn bosibl diolch i’r tocynnau a brynir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Derbyniodd grwpiau cymunedol gefnogaeth gan Adfywio Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru i nodi pa gamau newid hinsawdd y dylent eu cymryd a pha effaith gadarnhaol y gallai hyn ei chael. Mae Adfywio Cymru yn raglen sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy. Mae Cymunedau Cynaliadwy Cymru yn helpu cymunedau ar draws y wlad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda mudiadau cymunedol i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeiladau.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: “Mae pobl yn deall yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar ein cymunedau. Mae’r peilot Ychwanegol Newid Hinsawdd yn rhan o’n hymrwymiad i gefnogi pobl a chymunedau i wneud y newidiadau bach lle maen nhw’n byw i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
“Fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol yn y DU rydym yn gwybod bod gweithredu lleol nid yn unig yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd yn cynnig digon o fuddion eraill i bobl a chymunedau. Dyna pam ei bod yn wych eu gweld yn ffynnu diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. ”
Comments are closed.