Mae’r hyn a gychwynnodd gydag ychydig o fechgyn yn chwarae gyda beics yn ystod cyfyngiadau covid, wedi dod yn gatalydd i Goleg y Cymoedd Nantgarw.
- Beth yw’r stori?
Yn ôl ym mis Medi 2020, dychwelodd myfyrwyr Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd Nantgarw (16-19 oed) yn ôl i’r dosbarth i ddysgu wyneb i wyneb, ond nid oedd y myfyrwyr Gwobr Dug Caeredin yn cael mynd ar unrhyw dripiau neu ymweliadau i geisio cwblhau unedau ‘Gwirfoddoli’ a ‘Sgiliau’ y wobr. Aeth Val Smith, arweinydd y cynllun, ati i siarad gyda rhai o’r bechgyn ifanc a daeth yn amlwg eu bod yn hoff iawn o feics. Felly aeth ati, gyda’i chynorthwyydd dysgu Andy Robinson, i roi pethau ar waith a gofynnodd am ardal fach yn y coleg i osod gofod cynnal. Cawsant le mewn twll dan staer! Cwblhaodd Val ac Andy gwrs cynnal beics sylfaenol eu hunain hefyd.
- Beth ddigwyddodd nesaf?
Mae cynllun ‘beicio i’r gwaith’ wedi bod yn weithredol yn y coleg ers nifer o flynyddoedd, ond bellach mae’r grŵp yn cynnig bod staff neu fyfyrwyr yn gallu manteisio ar wasanaeth golchi, archwilio neu driniaeth syml. Roedd hyn yn cyflawni gofynion dwy uned Gwobr Dug Caeredin. Roedd pump o fechgyn yn cynnal beics yn rheolaidd, ac roedd yn llwyddiant, gyda’r coleg yn rhoi £200 i brynu mwy o offer angenrheidiol.
- Sut datblygodd…
Tyfodd momentwm yr holl beth a chyn hir roedd pum dosbarth o fyfyrwyr Gwobr Dug Caeredin yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect. Ar gyfartaledd, roedd tri beic yn dod i mewn bob wythnos i gael gwaith. Cydnabuwyd y llwyddiant yma gan reolwyr uwch y coleg a rhoddwyd caniatâd i adeiladu gweithdy ar y safle llawn offer i ailgylchu, trwsio a chynnal a chadw beics.
Yn fuan wedyn, cafwyd cefnogaeth Adfywio Cymru gyda mentora Andrew Burns o Hyfforddiant Beicio Cymru. Rhoddodd hyfforddiant syml i Andy a’r myfyrwyr i gynnal a chadw beics, awgrymodd syniadau i gynllun y gweithdy a rhoddodd gyngor iechyd a diogelwch cyffredinol – roedd y sesiynau yn boblogaidd iawn. Roedd y myfyrwyr wedi dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr, wedi magu hyder a llawer mwy. Mae Andy bellach yn cael ei gyflogi gan y coleg fel Hyfforddwr Swyddi ar gyfer y grŵp cynnal a chadw beics ar ôl gadael ei swydd cynorthwyydd dysgu i reoli’r prosiect yma.
- Symud ymlaen
Mae bwriad i sefydlu menter gymdeithasol i redeg y prosiect ac mae cynlluniau ar y gweill i gyflawni hyn. Mae safleoedd eraill Coleg y Cymoedd yn dangos diddordeb yn y prosiect yma gan y gallai sbarduno datblygiadau tebyg ar safleoedd eraill.
Dywedai Val Smith,
“Mae’r prosiect wedi gadael argraff fawr ar y coleg – mae’r hyfforddiant a’r gweithdy pwrpasol wedi ein helpu i wneud penderfyniadau eraill am ddyfodol gwyrddach. Rydym yn ymgysylltu fwy gyda’r gymuned leol a grwpiau cydnabyddus fel Greenpeace a Friends of the Earth i gynyddu ein gwybodaeth. Rydym hefyd mewn cysylltiad â chyngor RhCT ac wedi sefydlu hwb codi sbwriel ble mae myfyrwyr yn codi sbwriel, yn clymu’r bagiau ac yna’n cysylltu â’r cyngor i ddod i godi’r bagiau. Mae’r myfyrwyr yn helpu rheoli’r coetiroedd hynafol, wedi creu pwll cymunedol, wedi cyfri madfallod dŵr mewn gweithgareddau chwilota pyllau ac wedi plannu coed. Fel coleg, rydym eisiau parhau i weithio ar ein helfen werdd a sbardun hyn i gyd oedd bod yn rhan o’r wobr Dug Caeredin.”
Comments are closed.