Mae’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) wedi ymuno â’r rhaglen Adfywio Cymru yn ddiweddar, yn cynnal cydlynydd sydd yn gweithio dros Ogledd Cymru. Rydym yn obeithiol y bydd gweithio gyda EYST yn ein helpu i gynnig cymorth Adfywio Cymru i gymunedau sydd yn cael eu tangynrychioli’n bresennol yn ein rhwydwaith ac yng ngweithredu amgylcheddol y brif ffrwd.
Mae Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr EYST, yn credu bod manteision i’r ddwy ochr o weithio gydag Adfywio:
“Mae EYST Cymru yn gweithio tuag at ddod yn sefydliad gwyrddach, yn cael effaith minimol ar ein planed, a hoffwn ddysgu gan, ac ysbrydoli grwpiau eraill sydd yn gweithio gyda chymunedau lleiafrifol. Mae bod yn wyrdd a diogelu llesiant cenhedloedd y dyfodol yn ddyletswydd, nid braint. Mae gan staff EYST sgiliau yn cysylltu gyda grwpiau cymunedol ac unigolion o gefndiroedd amrywiol, ac mae cynnwys pawb yn hanfodol i lwyddiant cenhadaeth Adfywio Cymru.”
Sefydlwyd y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn 2005 gan grŵp o bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yn Abertawe. Ei fwriad oedd llenwi bwlch yn y ddarpariaeth i bobl ifanc duon a lleiafrifoedd ethnig 11-25 oed wrth ddarparu gwasanaeth cefnogol i ymateb i’w hanghenion sydd yn targedu, yn holistig ac yn sensitif i ddiwylliant. Ers hynny, mae EYST wedi datblygu ei genhadaeth a’i weledigaeth i gyfarfod anghenion pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion duon a lleiafrifoedd ethnig gan gynnwys ffoaduriaid ac ymofynwyr noddfa sydd yn byw yng Nghymru. Bellach maent yn cyflogi tîm o 35, yn gweithio yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Mae gwirfoddoli yn rhan allweddol o’r gwaith hefyd, ac mae yna dros 100 o bobl yn y tîm gweithgar o wirfoddolwyr, ac mae hyn yn tyfu o hyd!
Mae EYST yn arbenigo mewn cynnal sgyrsiau sensitif, cynhyrchiol gyda chymunedau am faterion gall fod yn anodd e.e. hawliau ac anghenion Lleiafrifoedd Du ac Ethnig ac ymofynwyr noddfa. Edrychwn ymlaen at ddysgu o’r profiad yma a’i gynnwys yn y sgyrsiau mae cydlynwyr Adfywio Cymru yn ei gael gyda chymunedau am newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – pwnc sydd ddim yn hawdd i’w drafod yn adeiladol bob tro.
Mae Lee Tiratira yn gweithio o Wrecsam ac yn Gydlynydd Rhanbarthol BAME Gogledd Cymru gyda EYST. Mae’n egluro pam ei fod eisio gweithio gydag Adfywio Cymru:
“Rwyf yn awyddus iawn i barhau i leihau’r effaith rwyf i a’m nheulu yn ei gael ar y blaned, a hoffwn gyrraedd mwy o bobl ifanc gyda’r neges yma a hysbysu’r genhedlaeth nesaf am yr effaith maent yn ei gael. Rwy’n gweld fy hun fel ffynhonnell cefnogaeth i bobl a chymunedau a hoffwn dynnu mwy o bobl at y bwrdd i drafod, lledaenu a datrys materion sydd yn eu heffeithio.”
“Rwy’n obeithiol y bydd gweithio fel rhan o Adfywio Cymru yn rhoi agwedd bositif arall i’n gwaith i fi a’r sefydliad.”
Mae EYST yn cysylltu gyda llawer o sefydliadau a grwpiau gwahanol dros y wlad gan gynnwys grwpiau ffydd a grwpiau cefnogaeth i ddioddefwyr yn ogystal â chysylltiadau dros, ac mewn, sectorau eraill fel iechyd, addysg a’r heddlu. Gobeithiwn fod hwn yn gychwyn partneriaeth ffrwythlon iawn!
Comments are closed.