Wedi’i sefydlu yn ardal Glanyrafon Caerdydd yn 2001, mae Women Connect First yn ganolfan adnodd annibynnol i ferched lleiafrifoedd ethnig, sydd yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chefnogaeth.
Fel llawer o sefydliadau eraill, maent yn dymuno cydbwyso darparu gwasanaeth cynhwysfawr a defnyddiol i’r buddiolwyr gyda lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd ac ymateb i newid hinsawdd. Mae’r sefydliad yma yn wahanol i’r mwyafrif gan fod y merched maent yn gweithio â nhw yn rai sydd wedi dianc o wledydd sydd yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, sydd yn gwneud hyn yn fater real iawn iddynt.
Daeth Ismat o Fangladesh yn 2002,
“Roedd y tywydd yn newid; gyda phob tymor yn lawog. Felly mae llifogydd yn fwy cyffredin, sydd yn dinistrio ein tiroedd. Mae’r tywydd wedi newid, a bellach dim ond ffrwythau a llysiau’r gaeaf gallem dyfu. Mae llawer o bobl yn gadael y wlad neu’n newid eu gwaith i waith diwydiannol, gan fod y gwaith yn y caeau yn dod yn fwy cymhleth.”
A dyma oedd gan Dalia, o’r Aifft, i’w ddweud am newid hinsawdd, “… cynyddodd y llygredd, cododd y tymheredd.”
Cafodd llawer o’r merched eu magu yng ngwledydd eu hunain gyda diffyg adnoddau sylfaenol, yn creu diwylliant o beidio gwastraffu dim – yn defnyddio popeth a’u hailgylchu ymhob agwedd o fywyd – bwyd, dillad dodrefn ac ati.
Siaradodd y grŵp â chydlynydd Adfywio Cymru leol am y tro cyntaf yn 2018, gan chwilio am gefnogaeth. Roeddent yn awyddus i wella effeithiolrwydd ynni eu hadeilad ac â diddordeb mewn camau fydda’n gallu arbed ynni, dŵr a gwastraff. Roeddent yn arbennig o awyddus i edrych ar y mater o gynaladwyedd bwyd ac yn ymwybodol o’u rhan nhw yn addysgu, hysbysu ac annog eu haelodau i ymddwyn yn fwy cynaliadwy yn eu bywydau bob dydd. Yn ychwanegol i hyn, gan fod llawer o grwpiau cymunedol eraill y defnyddio adeilad y WCF, roedd yn gyfle da i hysbysu ac annog y grwpiau yma hefyd.
Felly, cafwyd archwiliad adeilad ac ynni gan fentor Adfywio Cymru ac ysgrifennwyd adroddiad iddynt. Yr awgrymiadau pennaf oedd rheoli’r system gwresogi, newid rhai o’r rheiddiaduron hŷn, ac i newid y goleuadau. Er bod y rhain yn fesuriadau gellir eu gweithredu yn eithaf sydyn i leihau costau ynni, nid oedd yr arian ganddynt i wneud hyn ar y pryd.
Yn yr un cyfnod, edrychodd y WCF ar eu polisïau a’u hymarferion mewnol yn ymwneud â materion fel ailgylchu a defnydd o ddeunydd tafladwy. Tra bod agweddau ac, yn bwysicach fyth, arferion yn anodd ei newid weithiau, roeddent wedi gwneud cynnydd da yn y meysydd yma. Maent yn archwilio sawl strategaeth arall i wella’u cynaladwyedd amgylcheddol, fel ymdrechu i fod yn ddi-blastig, compostio gwastraff organig, annog dyddiau di-gig ymysg staff a gwirfoddolwyr – ac maent wedi cychwyn y gwaith i ennill gwobr y Ddraig Werdd (safon amgylcheddol sydd yn cael ei wobrwyo i sefydliadau sydd yn gweithredu ac yn monitro eu heffaith amgylcheddol.)
Yn 2019, roedd Women Connect First yn rhan o gynllun peilot i’r sawl a gaiff grantiau o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, lle cawsant fynediad i gyllid ychwanegol i gymryd camau penodol tuag at daclo newid hinsawdd. Yn ogystal â gofyn am arian i newid y rheiddiaduron yn yr adeilad, penderfynodd y WCF gyflogi gweithiwr sesiynol i gynnal gweithdai newid hinsawdd ryngweithiol yn edrych ar amryw agwedd i’r pwnc fydda’n helpu cefnogi merched i feddwl am ddatrysiadau i weithredu â’i gilydd. Mae’r gweithdai yma wedi digwydd ac wedi derbyn cefnogaeth a phresenoldeb da. Roedd y rhai fu’n cymryd rhan yn cynnwys merched oedd yn hanu’n wreiddiol o’r Eidal, Pacistan, Tsiena, Bangladesh, Moroco, Twrci, Sbaen, yr Aifft, Gwlad Iorddonen a Swdan.
Dywedodd Claudia Oreiro, y gweithiwr sesiynol, “Rydym wedi cael profiad gwych yn y gweithdai wythnosol. Daeth y merched yno heb unrhyw brofiad o siarad am newid hinsawdd, ond maent wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer am pam a sut mae’r argyfwng yn digwydd. Mae rhai ohonynt bellach yn gallu perthnasu’r drafodaeth i’r effaith mae’n ei gael ar eu mamwlad.”
Mae’r pynciau trafodwyd wedi bod yn gyfoes iawn gan gynnwys tanau fforestydd Awstralia a’r effaith mae’n ei gael ar y tir, bywyd gwyllt, anifeiliaid a phobl.
Wrth gyfarfod â’i gilydd, mae’r merched yn annog ei gilydd ac yn gweld pa syniadau sydd ganddynt i geisio byw yn fwy cynaliadwy fel teuluoedd ac yn rhannu’r neges gyda grŵp ehangach o bobl o fewn eu cymuned.
Mae Women Connect First yn credu’n gryf bod ganddynt gyfrifoldeb i weithredu er mwyn negyddu effaith amgylcheddol a byddant yn parhau i ymdrechu i wneud hyn y gorau gallant.
Comments are closed.