Wrth i’r flwyddyn newydd gychwyn roedd nifer o grwpiau cymunedol ar draws Cymru yn gyffrous am yr arian ychwanegol a fyddai’n eu helpu i fynd i’r afael a newid hinsawdd.
Mae rhaglen Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Hwb i’r Hinsawdd yn rhoi ‘hwb’ i rai o’r grwpiau sy’ eisoes wedi’u hariannu ganddyn nhw er mwyn iddynt ddod i fyny a chynlluniau arloesol a newydd. Mae Adfywio Cymru yn rhan hefyd – ar y dechrau wrth gwrdd â’r grŵp a’u helpu i greu cynllun gweithredu er mwyn gweld beth yn union maent eisiau eu cyflawni. Yna, ry’ ni’n eu cysylltu â mentor os oes angen.
Er bod 35 grŵp yn rhan o’r rhaglen yn ei gyfanrwydd, a bod ganddynt tan fis Mawrth i roi’r cais i mewn, mae rhai ohonynt wedi gwneud eisoes ac wedi cael golau gwyrdd.
Felly – gadewch i ni edrych ar rhai ohonyn nhw.
Mae Bwyd Dros Ben Aber wedi cael arian i brynu cyfleuster compostio ‘Ridan’ fel y gallent gynhyrchu compost ar gyfer prosiectau tyfu lleol, i edrych ar ei ‘adroddiad carbon’ a gweithredu er mwyn ei leihau, ac yn olaf i edrych ar ei thrafnidiaeth drwy ddechrau cynllun beic i wirfoddolwyr deithio i gasglu nwyddau yn fwy cynaliadwy.
Gyda’u harian nhw, mae Huggard, sef corff sy’n cefnogi’r digartref yng Nghaerdydd, yn bwriadu cyflogi i fynd i’r afael a gwelliannau i’w gwasanaeth ac i ymgorffori cynaladwyedd drwy eu holl ffyrdd o weithio- gan gynnwys codi sbwriel, addysg ailgylchu i gleientiaid a staff ac i wella ei pherfformiad gyda nwyddau un defnydd megis cwpanau a deunydd prydau bwyd.
Un pwnc sy’ dan sylw gyda Manage Money Wales – sef ailgylchu. Maent eisiau codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu ac i weithio yn erbyn y stigma o brynu ail -law, trwy ysbrydoli, dylanwadu a gweithio tuag at dueddiad i ailgylchu. Byddant hefyd yn mentora a chefnogi grwpiau cymunedol,
mudiadau a busnesau i redeg eu cynlluniau ‘rhannu’ eu hun.
Mae prosiect ‘Play It Again Sport’/ People and Work wedi prynu car trydanol ail-law a fydd yn gwneud y teithio o amgylch i gasglu deunydd yn fwy caredig i’r amgylchedd. Maent hefyd yn ceisio gosod pwynt gwefru cerbydau ar gyfer y gymuned.
Clwb Trotio Dyffryn Aman– maen nhw’n edrych i daclo amryw o bethau, gan gynnwys seddi newydd wedi eu gwneud o blastig wedi’i ailgylchu, biniau ailgylchu newydd er mwyn annog pobl i gael gwared ar sbwriel yn fwy cyfrifol, mannau plannu i dyfu perlysiau a ffrwythau meddal i gyflenwi’r caffi ac i roi cyfleoedd gwirfoddoli ychwanegol i aelodau.
Mae Innovate Trust, sy’n darparu cefnogaeth a chymorth i bobl anabl ar draws de Cymru, wedi penderfynu ar ddau wahanol ffordd i ddefnyddio’u harian. Yn gyntaf i gael arolwg egni o’i chartref seibiant yng Nghaerdydd ac yna gweithredu ar unrhyw argymhellion. Yr ail yw i ddatblygu ac ychwanegu gweithgarwch at ei adnodd digidol (‘Insight’) i hyrwyddo effeithiolrwydd egni a chynhyrchu bwyd. Mae gan yr adnodd 589 o aelodau!
Mae Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog yn defnyddio’r arian i gyflogi person i helpu gyda’i gweithgarwch a phrosiectau amgylcheddol, gan gynnwys ei raglen i reoli rhywogaethau ‘invasive’, ac i symud ymlaen gyda phrosiectau mannau gwyrdd eraill fel y berllan gymunedol mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Ffestiniog a gardd gymunedol gyda’r ganolfan gymdeithasol.
Bydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn gweithio’n benodol gyda 7 o’i chlybiau ieuenctid i ddechrau prosiectau tyfu ac ailgylchu. Bydd y bobl ifanc yn edrych ar dir nad sy’n cael ei ddefnyddio a’u dosbarthu mewn i rannau bach ac yna yn cael hyfforddiant ar beth a sut i blannu. Bydd y prosiectau ailgylchu yn digwydd mewn modd tebyg- gyda hyfforddiant cyn dechrau’r cynllun. Bydd cefnogaeth gan fentor hefyd yn galluogi’r clybiau i sefydlu cystadleuaeth Hwb i’r Hinsawdd a phennu Pencampwyr Newid Hinsawdd.
Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghaerdydd (Canolfan y Drindod / Prosiect Global Gardens) sy’n edrych ar weithgarwch amlbwrpas, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o fwyd lleol drwy weithdai a sesiynau arbed- hadau ac ehangu diddordeb mewn coginio bwyd da ac iachus. Maent eisiau edrych i osod systemau arbed dŵr ag egni ac yn gyffredinol yn ceisio cysylltu mwy o bobl i fyd natur drwy gyd-weithio gyda grwpiau o bobl mwy bregus a mudiadau eraill.
Gyda mwy o geisiadau ar y gweill, edrychwn ymlaen at roi diweddariad arall i chi cyn bo’ hir, ynghyd a dilyn stori rhai o’r grwpiau yn fwy manwl.
Comments are closed.