Mae CARE wedi bod yn gweithio i sefydlu prosiect ynni adnewyddadwy cymunedol ers 2004. Y weledigaeth tymor hir ydy gweithio gyda’r ardal leol i leihau allyriant carbon deuocsid, gan gymryd y cyfle i daclo tlodi tanwydd a gwaharddiad cymdeithasol hefyd. Roeddent yn bwriadu bwydo’r adnoddau ariannol cynhyrchir gyda’r ynni adnewyddadwy yn ôl i mewn i’r gymuned. Byddant yn cynyddu effeithiolrwydd ynni a generadiad ynni adnewyddadwy yn y cartref mewn anheddau teuluol, ac yn cefnogi busnesau a chyfleusterau lleol fel neuaddau cymunedol. Mae’r prosiect yn gweithredu yn un o’r ddwy ward etholiadol sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan dlodi tanwydd yng Nghymru.
Yn dilyn gwaith rhychwantu gan ymgynghorwyr yn 2006, adnabuwyd mai ynni gwynt oedd yr adnodd ynni adnewyddadwy fwyaf addas i fuddio’r gymuned yn ariannol ac i gwtogi allyriadau carbon. Maent wedi bod yn ymdrechu’n galed ers hynny i wireddu hyn. Yn dilyn 13 mlynedd o ddal ati, derbyniwyd cynnig CARE o’r diwedd yn 2016. Roedd hyn yn dilyn gwrthod 5 penderfyniad cynllunio ac wynebu llawer iawn o wrthdaro gan nifer fach o unigolion lleisiol iawn oedd yn gwrthwynebu ynni gwynt.
Bu oedi yn ystod cyfnod cynllunio’r prosiect CARE mewn cyfnod pan roedd cynlluniau gwynt yn gallu cynhyrchu cryn incwm gyda Thariffau Bwydo i Mewn (FiTs) uchel. Bydda un o geisiadau cynllunio CARE, petai wedi cael ei gytuno yn sydyn, wedi generadu dros £4 miliwn i’r gymuned. Mae’r gyfradd FiT isel iawn presennol yn golygu bod rhaid i CARE i chwilio am ffyrdd arloesol newydd i sefydlu’r prosiect er budd y gymuned, gan gynnwys: cynhyrchu hydrogen ar gyfer cludiant lleol carbon-niwtral, cyflenwi busnesau lleol a phwynt gwefru cerbydau trydan gyda thrydan y tyrbin gwynt.
Yn y cyfnod yma daeth Adfywio Cymru yn rhan o’r cynllun i gefnogi’r grŵp wrth iddynt ddatblygu’r prosiect tyrbin gwynt, gan gynnwys ymchwilio’r posibiliadau gwahanol i asesu hyfywedd y prosiect. Er na chafodd CARE lwyddiant gyda chais ariannu wedi’i gefnogi gan Adfywio, mae’r gydran ymchwil darparir gan Adfywio wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddynt i benderfynu’r math o eneradur a storio sydd ei angen ar gyfer y prosiect.
Roedd CARE yn llwyddiannus yn ennill gwobr Adfywio ‘Er Gwaethaf Popeth: Esiampl gorau o benderfyniad i daclo newid hinsawdd yn lleol’ yn 2017. Gall wylio’r fideo yma. Yn dilyn hyn derbyniwyd 2.5 diwrnod o Fentora Cyfoed ychwanegol. Cafodd ei ddefnyddio i archwilio storio posibl ar gyfer cynlluniau grid lleol. Gyda chefnogaeth Daniel Blackburn, Mentor Cyfoed Adfywio, cynhaliodd CARE ddigwyddiad yn y Ganolfan Gymunedol leol ble estynnwyd gwahoddiad i gyflwyno i arbenigwyr storio batri a grid. Gwahoddwyd grwpiau cymunedol o Sir Benfro i fynychu’r digwyddiad rhad ac am ddim yma. Roedd hwn yn gyfle i’r grwpiau oedd yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy eu hunain i ddysgu am y dechnoleg arloesol ddiweddaraf gan arbenigwyr, sut i ddefnyddio’u cynnyrch orau, sut i drechu tlodi tanwydd ac osgoi bod yn ddioddefwyr y gwahaniaethau mewn prisiau trydan.
Yn ogystal ag agwedd ymwybyddiaeth ac addysgiadol y digwyddiad, manteisiwyd ar y cyfle i ennyn cefnogaeth tuag at CARE, y tyrbin gwynt a’u hamcanion ehangach. Cafwyd eu synnu gyda’r niferoedd mawr fynychodd – 91 o bobl – dros ddwbl yr hyn roeddent wedi’i ddisgwyl! Trefnwyd y digwyddiad fel bod y siaradwyr yn gallu cynnal gweithdai trylwyr cyn i’r cyhoedd fynychu, yn rhoi’r cyfle i’r pwyllgor a’r ganolfan gymunedol oedd yn ei gynnal, Canolfan Hermon, i asesu’r potensial am fwy o effeithlonrwydd ynni a storio ynni yn y ganolfan. Ar y dydd, nododd John Cantor, Mentor Cyfoed Adfywio, bod aneffeithlonrwydd enfawr gyda phwmp gwres o’r aer y ganolfan. Llwyddodd John i reoli ac yna datrys y broblem wrth ei addasu ar ddiwrnod y gweithdy! Yn dilyn o hyn, cyflwynodd tri siaradwr i’r cyhoedd a chafwyd sesiwn holi ac ateb sydd bellach ar gael ar-lein.
“Mae’r ffaith bod cymaint o bobl wedi dod trwy’r drws yn ddefnyddiol iawn i CARE, ac mae hyn wedi’n helpu i dyfu ein rhwydwaith lleol o weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, yn ogystal â chynyddu’r ymwybyddiaeth am ein prosiect, storio ac effeithlonrwydd ynni yn gyffredinol.”
O ganlyniad y digwyddiad, mae cwpl oedd yno wedi gosod system storio batri yn eu cartref (gweler llun o’r gosodiad yma i’r dde).
Mae CARE yn parhau i weithio gydag Adfywio Mae hyn yn dangos pa mor hanfodol yw Adfywio i lenwi’r bylchau cefnogaeth i brosiectau llawr gwlad graddfa fawr, fel rheoli asedau sy’n eiddo i’r gymuned. Ynghyd â’r Mentor Cyfoed Jeremy Thorpe, sydd yn gweithio i Share Energy, byddant yn datblygu teclyn cyllidol gall Cwm Arian ei ddefnyddio i ymholi costau a chymharu gwahanol senario ar gyfer y prosiect hwn. Bydd y teclyn yn rhoi’r grym iddynt gadw trefn well dros reolaeth ariannol a bydd hwn yn agored i grwpiau cymunedol eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Bydd hyn yn rhoi’r grym i CARE i wneud penderfyniadau ar sail eu cyllid, gydag un o’r prif benderfyniadau yn dewis tyrbin gwynt wedi’i adnewyddu neu dyrbin newydd wedi’i selio ar ragweld costau a chynhyrchiad dros fywyd y prosiect.
Mae’n gyfnod hollbwysig i CARE gan fod terfyn amser y FiT presennol yn dod i ben mis Rhagfyr 2018. Y gobaith yw, gyda chefnogaeth ychwanegol Adfywio gan Jeremy Thorpe, byddant ar y trywydd cywir i gynhyrchu ynni glân yn 2019 a chyflawni’u nodau ehangach yn y gymuned.
Am wybodaeth bellach ar Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian ymwelwch â’u gwefan.
Comments are closed.