Mae Ynys Môn wedi dod yn fagwrfa gweithredu amgylcheddol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Efallai bod hyn oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o’r pwnc, ond mae Adfywio Cymru, trwy un o’i sefydliadau lletya, Menter Môn, a’r cydlynydd lleol Jackie Lewis, wedi bod cefnogi sawl grŵp ar yr ynys i edrych yn graff ar eu cymunedau a’u hasedau. Maent wedi gweithredu yn dilyn cyfle i ddysgu a deall mwy am ganlyniadau newid hinsawdd. Dyma ychydig o hanesion byr am yr hyn sydd wedi digwydd, pam, a’r effaith mae hynny wedi’i gael.
Bryngwran Cymunedol
Yr Iorweth Arms ym Mryngwran yw’r unig dafarn ar Ynys Môn mae’r gymuned yn berchen arno yn bresennol. Yn cael ei reoli gan Bryngwran Cymunedol, mae’n ganolfan cymunedol gwych – mae’r dafarn yn fenter gymdeithasol, yn trefnu digwyddiadau cymunedol yno ac mewn lleoliadau eraill yn y pentref, yn cynnal te prynhawn i grwpiau lleol gan gynnwys grŵp dementia, ac yn codi arian at achosion da. Maent hefyd yn llwyddiannus iawn yn ychwanegu i’r portffolio o asedau ar gyfer y gymuned wrth drawsnewid adeiladau tu allan yn dair uned.
Ar ôl i Fryngwran Cymunedol gael mynediad i arolwg ynni o’r adeiladau, cafwyd nawdd i osod trefn solar, batri, a system gwresogi ac maent yn gweithio gyda Menter Môn i osod pwynt gwefru cerbydau trydan, sydd yn cael ei ariannu gan LEADER.
Lawnt Pentref Benllech
Mae grŵp Lawnt Pentref Benllech yn edrych ar sawl ffordd wahanol i wella eu helfennau cynaladwyedd ar y cyfan. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gwella effeithiolrwydd ynni adeiladau cymunedol sy’n bodoli a chyflwyno ynni adnewyddadwy ble’n bosib
- cynnal digwyddiadau yn canolbwyntio ar yr amgylchedd/newid hinsawdd – sydd yn ymwneud â thyfu a bioamrywiaeth yn arbennig
- annog ffyrdd o fyw iachach a lleihau defnydd car gan gynnig opsiynau teithio cymunedol amgen ac annog e-gludiant
- prynu cynnyrch lleol, wedi’u hailgylchu a’u huwchgylchu.
Darparwyd cefnogaeth mentor Adfywio Cymru, Lizzie Wynn, a oedd yn awyddus i blannu yng ngofodau gwyrdd yn y pentref a chreu system unffordd tuag at y traeth sydd yn annog beicio a cherdded (ac felly yn lleihau’r allyriadau carbon a’r traffig yn lleol). Cafwyd archwiliad ynni yn un o’r blociau toiled/cawod gymunedol hefyd.
Ffrindiau Llanfachraeth
Mae Grŵp Ffrindiau Llanfachraeth wedi tynnu amryw o bartïon sydd â diddordeb at ei gilydd er budd y pentref cyfan. Fel grŵp eithaf newydd, maent yn awyddus i wneud newidiadau fydd yn ychwanegu at yr ardal ac i ddysgu mwy am yr hyn gellir ei wneud i frwydro newid hinsawdd. Mae’r syniadau yn cynnwys:
- lleihau ôl troed carbon y pentref ar y cyfan gan osod ynni solar mewn asedau cymunedol a phwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer ceir a beiciau trydan
- gwneud defnydd gwell o neuadd y pentref wrth ei ymgorffori i’r ‘Gofod Gwyrdd’ arfaethedig fel ardal greadigol
- cynlluniau ailgylchu ac uwchgylchu
- cil-bwrpasu darn o dir diddefnydd gan greu ardal tir gwlyb/cors, cyflwyno coridorau gwenyn, annog plannu coed i wiwerod coch a rhywogaethau eraill – annog bioamrywiaeth yn yr ardal
- creu gardd coffa, creu bocsys/planwyr a phlannu pethau bwytadwy – bydd hyn yn annog cydweithredu rhwng cenedlaethau a gwella iechyd a lles pobl
- rhoi ‘gwybodaeth ymwybyddiaeth newid hinsawdd’ i bob cartref gan gynnwys cyngor ar dyfu, ryseitiau bwyd, llygredd golau, dyfeisiau arbed ynni ayb.
- sicrhau bod yr holl lwybrau cyhoeddus yn agored a bod byrddau dehongli wedi’u gosod y tu allan i adnoddau’r pentref
Mae Ffrindiau Llanfachraeth wedi derbyn cefnogaeth am eu gofod gwyrdd cymunedol ac yn chwilio am nawdd gan Môn a Menai i gwblhau’r prosiect. Maent wedi cofrestru gyda Chaffi Atgyweirio Cymru gan feddwl sefydlu cynllun, maent yn recriwtio gwirfoddolwyr i dacluso’r pentref, ac yn gweithio gyda Menter Môn ar y prosiect gwefru cerbydau trydan.
Grŵp LlanNi
Mae Grŵp LlanNi yn Gwmni Dielw newydd yn Llannerchymedd wedi’i sefydlu i gefnogi prosiectau cymunedol. Lleolir Llannerchymedd yng nghalon cefn gwlad Ynys Môn, gyda hanes diddorol sydd yn cynnwys crefftau yn ogystal â threftadaeth hanesyddol ac archeolegol sylweddol. Yn ogystal â’r cyfleusterau pentref traddodiadol fel ysgol, eglwys, tafarndai, siop a garej, mae yna ofod cymunedol cymdeithasol sydd â gardd gymunedol a chaffi sydd yn cael ei redeg yn breifat (wrth ochr hen reilffordd).
Mae’r gymuned, trwy Grŵp LlanNi, wedi mynegi diddordeb mewn dysgu mwy am bwyntiau gwefru cerbydau trydan (ceir a beiciau) a chreu cyfleuster/canolfan cymunedol atgyweirio ac ailddefnyddio. Maent hefyd yn awyddus i gael cyfle i rwydweithio gyda grwpiau eraill yn yr ardal i ddysgu mwy am newid hinsawdd a rhannu hanesion a phrofiadau, gyda bwriad o gyfrannu’n gadarn i newid agweddau ac arferion Llannerchymedd yn y dyfodol.
CPD Llangefni
Sefydlwyd Clwb Pêl Droed Tref Llangefni yn 1876 ac mae yna aelodaeth fawr o tua 220. Mae amcanion y clwb yn mynd y tu hwnt i bêl droed wrth iddynt feddwl am les ehangach y boblogaeth. Maent yn awyddus i ail-ddatblygu a chynnal Stadiwm Cae Bob Parry at bwrpas chwaraeon, addysg a hamdden, a chreu perthynas gyda sefydliadau lleol sydd yn hyrwyddo buddiannau chwaraeon er lles pobl gydag anableddau corfforol, gwybyddol neu addysgol. Maent yn awyddus i hyrwyddo cyfleusterau’r clwb fel asedau cymunedol ehangach ac yn ganolfan i roi gofod ar gyfer gweithgareddau i bobl ifanc lleol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Maent yn awyddus iawn i wella perfformiad effeithiolrwydd ynni’r adeilad cymunedol newydd, i gynnal digwyddiadau sydd yn canolbwyntio ar amgylchedd/newid hinsawdd a lleihau’r defnydd o geir yn teithio i’r clwb.
Maent hefyd yn awyddus i edrych ar brynu cynnyrch, gan brynu’n lleol, uwchgylchu, ailgylchu a dod yn di-blastig. Mae Adfywio Cymru wedi eu rhoi mewn cysylltiad â thri mentor – cafwyd cefnogaeth i gynllunio gardd gymunedol ar y tir gan Lizzie Wynn mewn partneriaeth â Mencap, mae Cerys Jones o Gaffi Atgyweirio Cymru wedi helpu gyda’r posibilrwydd o gynnal digwyddiadau atgyweirio mewn partneriaeth â Men’s Sheds, ac mae Glyn Hudson wedi bod yn helpu i ystyried holl agweddau pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Felly llawer o gamau gwych wedi digwydd!
Canolfan Biwmares
Roedd Ymddiriedolwyr Canolfan Biwmares wedi cymryd cyfrifoldeb dros y ganolfan hamdden yn 2012 yn dilyn toriadau sector cyhoeddus. Mae oddeutu 30 o wirfoddolwyr yn helpu i ddarparu cyfleuster diogel, modern, aml ddefnydd sydd yn cael ei ddefnyddio’n dda gan grwpiau ac unigolion y gymuned leol a thu hwnt. Mae’r ganolfan yn cynnig cyfleoedd hamdden a chwaraeon, rhyngweithio cymdeithasol gydag ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau, sinema ac arlwyaeth ar y safle. Yn ddiweddar, maent wedi dod i feddiant y llyfrgell leol a’r ganolfan gymunedol ar y safle a bellach yn cynnal y prosiect Men’s Sheds lleol. Felly, mae’n lleoliad prysur iawn!
Mae’r Ganolfan yn arwain sawl menter i godi ymwybyddiaeth ar faterion amgylcheddol ac i helpu gwneud newidiadau yn y gymuned; mae wedi gosod system ynni solar yn adeilad y ganolfan hamdden; wedi gosod pwynt gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio; wedi annog y ganolfan a busnesau lleol i sefydlu cynlluniau ailgylchu sylfaenol fel tuniau a phapur; ac wedi bod yn rhan o fenter di-blastig ac wedi derbyn achrediad. Maent wedi derbyn cefnogaeth mentora trwy Adfywio Cymru ar godi ymwybyddiaeth amgylcheddol, cynlluniau plannu cynaliadwy ac arweiniad ar fenter atgyweirio ac ailddefnyddio. Maent yn gweithio hefyd ar bwyntiau gwefru cyflym i gerbydau trydan unwaith bydd cyflenwad trydan newydd wedi’i gysylltu yn y llyfrgell. Maent wedi caffael cerbyd trydan sydd yn gallu cario cadeiriau olwyn, sydd o fudd mawr i’r rhai sydd â phroblemau symudedd ac angen cael mynediad i ddosbarthiadau yn y ganolfan.
Neuadd Bentref Penysarn
Cyfrifoldeb Ymddiriedolwyr Neuadd Bentref Penysarn yw gofalu am y neuadd er budd aelodau’r gymuned ym Mhenysarn a Llaneilian – mae angen iddo fod yn gyfleuster cyfoes, aml-ddefnydd ar gyfer grwpiau cymunedol i gynnal amrywiaeth o weithgareddau, a chreu neuadd sydd mor ynni effeithlon a phosib ac sy’n flaenoriaeth fawr i’r grŵp.
Cynorthwyodd Adfywio Cymru iddynt gael archwiliad ynni gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru, ac roedd hyn wedi arwain at gyllid i osod pwmp gwres o’r aer a’i ychwanegiadau. Bydd rhaid iddynt ddisgwyl am gyfnod cyn gallu mesur buddiannau ‘swyddogol’ y system, ond mae’r siwrne tuag at ffynhonnell tanwydd glanach wedi ei chychwyn.
Cyngor Cymunedol Llaneilian
Mae Cyngor Cymunedol Llaneilian, ar arfordir Gogledd-ddwyrain Ynys Môn, yn awyddus i edrych ar amrywiaeth o faterion. Maent yn awyddus i annog ffordd o fyw iach gan reoli llwybrau cyhoeddus a chynefinoedd naturiol gwell, i gynnig gwasanaethau i annog e-gludiant sydd yn gysylltiedig i ganolfannau cymunedol, neu i brynu cynnyrch lleol ac ailgylchu cymaint â phosib. Ond roeddent hefyd wedi meddwl am rywbeth gwahanol i’r mwyafrif o grwpiau, rhywbeth i edrych ar ffyrdd creadigol ac amgylcheddol i warchod asedau cymunedol – yn enwedig arhosfannau bws. Meddyliwyd am arhosfa bws yn yr ardal oedd yn anarfer neu yn cael ei thanddefnyddio, ac annog beicwyr a cherddwyr i’w defnyddio fel ardal picnic neu le i stopio! Nid yw hyn wedi digwydd oherwydd y pandemig covid, ond maent bellach yn ail-fesur y sefyllfa cyllid a’r gobaith ydy atgyfodi’r cynllun yn y dyfodol. Derbyniwyd cefnogaeth Lizzie Wynn, a siaradodd am blannu fertigol a ffyrdd i annog bioamrywiaeth o gwmpas yr arhosfannau.
Hwb Llanfaelog
Mae aelodau pwyllgor Neuadd Bentref Llanfaelog yn rheoli’r hwb lleol a’r ardd at ddefnydd y gymuned ac maent yn uchelgeisiol iawn ‘wrth chwarae eu rhan’. Roeddent yn awyddus i archwilio lleihau ôl troed carbon y neuadd – wrth osod paneli solar ar yr adeilad a chreu pwyntiau gwefru cerbydau trydan i geir a beiciau trydan ac edrych ar gynlluniau swmp-brynu i gynnwys band llydan. Yn ychwanegol i hyn, cawsant gefnogaeth Adfywio Cymru i greu rhandiroedd at ddefnydd plant, a gwaith plannu pellach yn yr ardd gymunedol/coffa gan gynnwys planhigion bwytadwy. Y gobaith mawr ydy y bydd hyn yn weithgareddau cyfredol rhwng y cenedlaethau a bydd hyn yn helpu gydag iechyd a lles pobl.
Cyngor Cymunedol Llanfaelog – Llyfrgell Rhosneigr
Mae Llyfrgell Rhosneigr yn cael ei reoli gan Gyngor Cymuned Llanfaelog. Mae’r mwyafrif o’r tai yn y pentref yn ail gartrefi neu’n llety gwyliau drud, ac felly mae’n ddibynnol iawn ar dwristiaeth. Roedd y pentref wedi dioddef o orboblogaeth yn ystod y pandemig COVID-19, gan gynnwys gwersylla gwyllt a drwgdeimlad rhwng ymwelwyr a’r boblogaeth leol yn arwain at faterion amgylcheddol, gan gynnwys gormod o draffig ac ysbwriel. Fel sonnir uchod, mae’r grŵp yma yn ymroddedig i wella mynediad i bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer ceir a beiciau trydan ac i wireddu mesuriadau arbed ynni yn yr adeilad, fel awgrymir yn yr archwiliad Cymunedol Cynaliadwy Cymru. Mae’r llyfrgell wedi cael ei adnabod fel lle perffaith i sefydlu cynlluniau ailgylchu ac uwchgylchu yn ogystal â bod yn ganolfan cyffredinol i godi ymwybyddiaeth o weithgareddau amgylcheddol lleol.
Mencap Môn
Mae Mencap Môn yn elusen sydd yn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu ac maent yn edrych ar ddod yn fenter gymdeithasol weithgar yn bresennol. Maent yn ystyried dod yn gyfrifol am gynnal Melin y Graig, melin wynt diddefnydd yn Llangefni, a thŷ preswyl diddefnydd cyfagos. Maent yn awyddus i wella bioamrywiaeth a chyflwyno cynlluniau plannu yn yr ardal drefol o’i gwmpas. Mae sawl syniad a chynlluniau eraill gan gynnwys caffi cymunedol, amgueddfa leol, a chyfleusterau dan do i deuluoedd. Mae angen i’r holl ddatblygiadau yma fod â chynaladwyedd wrth ei galon, ac felly maent yn archwilio opsiynau mentora yn ymwneud ag archwiliad ynni a datrysiadau arbed ynni yn y ganolfan bresennol a darpar leoliadau newydd, a’r posibilrwydd o bwyntiau gwefru cerbydau trydan, a chefnogaeth gyda’r agwedd tyfu/bioamrywiaeth a’r datblygiad caffi, ynghyd ag ymgynghoriad cymunedol ar bopeth!
Amgueddfa Arforol Caergybi
Prif broblem Amgueddfa Arforol Caergybi yw’r biliau ynni – sydd yn costio oddeutu £600-£1000 y mis. Roedd yr amgueddfa wedi cau am sawl mis yn 2020 a 2021 oherwydd Covid-19, ond mae ynni yn bryder cyson gan fod angen cadw’r arddangosfeydd i’r tymheredd a’r lefelau lleithder cywir i warchod yr arteffactau’n iawn, pa unai ydynt yn agored neu beidio! Mae yna awydd cryf i reoli hyn yn well yn y dyfodol. Mae’r casgliadau helaeth (yn yr orsaf bad achub hynaf yng Nghymru) yn cynnwys pethau cofiadwy sydd â hanes arforol a Rhyfel Byd lleol a chenedlaethol. Llwyddodd y cydlynydd Adfywio Cymru leol eu cysylltu gyda Chymunedau Cynaliadwy Cymru i gynnal archwiliad ynni sydd yn cynnig opsiynau am sawl gwelliant am ddim, cost isel, a rhai arall i’w hystyried pan fydd cyllid yn caniatáu. Ar yr agenda hefyd mae denu mwy o feicwyr ac felly maent yn ystyried raciau beicio gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan, ac o bosib, paneli PV ar y to os yw’r statws gwarchod yn caniatáu. Maent yn ymwybodol iawn o’r effaith ehangach mae newid hinsawdd yn ei gael gan fod erydiad llanw a lefelau môr yn codi yn bryder mawr yma gan eu bod wedi lleoli ar y draethlin. Mae hyn yn dylanwadu ar y gallu i ymestyn yr adeilad. Maent yn paratoi cynllun busnes newydd ar gyfer cyllid i fwyhau/ymestyn yr amgueddfa ac yn cynnwys ymchwil i ffyrdd priodol o leihau treuliant ynni a chynhyrchiad gwastraff.
Hen Ysgol, Llanddona
Dyma grŵp arall sydd â llawer o syniadau, fel effeithiolrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy, cynnal digwyddiadau yn canolbwyntio ar newid hinsawdd yn ymwneud â thyfu a bioamrywiaeth yn benodol, darparu canolfan canolog i gael mynediad i gefnogaeth ac ymgysylltiad fydd yn helpu i adeiladu gwydnwch yn y gymuned ac i annog ffordd o fyw iach, lleihau’r defnydd o geir gan gynnig opsiynau teithio cymunedol gwahanol. Penderfynwyd cychwyn gyda’r mater ynni adnewyddadwy ac roeddent yn rhan o raglen beilot Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cawsant archwiliad ynni a gosodwyd paneli solar ar y to.
Grwpiau cymunedol eraill sydd wedi gofyn am ein cefnogaeth yn fwy diweddar yw:
Menter Amlwch – sydd yn awyddus i archwilio cynllun e-feic, datblygu ardal awyr agored cartref gofal sydd yn fwy deniadol a defnyddiol – ac efallai gwlâu tyfu bwyd.
Goleudy Ynys Lawd – Maent yn awyddus i annog mwy o ymwelwyr a’u bod yn cyrraedd wrth gerdded neu feicio. Maent eisiau creu pwynt stopio ger hen chwarel gyda man eistedd ac ychydig o blannu sensitif.
Hwb Cemaes CBC – sefydlwyd i reoli’r adeilad llyfrgell oedd wedi cau ac mae’r grŵp eisiau dod i ddeall effeithiolrwydd ynni ac opsiynau ynni adnewyddadwy ar gyfer yr adeilad.
Mae llawer o newidiadau bach yn digwydd yn lleol yn gallu helpu lleddfu effaith newid hinsawdd ac mae ‘clywed gan eraill’ wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth greu effaith ton ar yr ynys. Mae hyn i gyd yn creu canlyniadau fydd yn cael effaith mwy ar genhedloedd y dyfodol, ac mae llawer o’r gwaith yn parhau i ddigwydd wrth gwrs. Mae Jackie Lewis wedi bod yn rhan allweddol o gefnogi a llywio’r grwpiau tuag at gyfleoedd cyllid a’r mentora sydd ei angen i symud pethau ymlaen.
Fel dywedir “mae gan bopeth ei amser” ac wrth feddwl am y nifer o grwpiau sydd yn gweithredu’n bositif, mae’n ymddangos fel mai nawr yw’r amser i Ynys Môn.
Comments are closed.